Ewch 10/04/99
Gadewch i ni weddio heddiw dros bobl Kosovo ac am heddwch yn ein byd.
Gadewch i ni barhau i weddio dros gwledydd America Ganol wedi'r ystormydd a gafwyd yno
Mae angen ein gweddiau dros yr ymgyrch 'Eglwysi yn Gweithredu dros y Cynulliad Cenedlaethol'. Gobeithir gweld Cristnogion yn eu miloedd yn pleidleisio ac yn tanlinellu yr hyn sy'n cyfrif i Gristnogion.
Gadewch i ni weddio dros y tim sy'n hyrwyddo ymgyrch Jiwbili 2000 gan weddio y bydd llywodraethau'r byd yn dileu'r ddyled.
Dechrau ar waith sydd yma hyd yn hyn. Gofynnir yn daer am weddiau arbennig ar gyfer unigolion a sefyllfaoedd sydd angen cymorth. Gobeithiwn ddefnyddio'r safle yma ar gyfer achosion brys. Mae'r wê yn rhoi cyfle godidog i ni ymateb yn gyflym ac yn eang. Gellir gwneud hyn dros destunau gweddi yng Nghymru ac mewn gwledydd tramor.Cysylltwch â'r Golygydd os gwelwch yn dda.
Anfonwch e-bost at y Golygydd.