|
|
Yn Rhagfyr 2001, dywedodd y Gweinidog tros Ynni, - Brian Wilson - ei fod yn cymeradwyo datblygiad Gorsaf Wynt Cefn Croes. Gofynnwyd i chwi ysgrifennu at Patricia Hewitt, sef yr Ysgrifennydd Gwladol, yn deisyf arni i gynnal Ymchwiliad Cyhoeddus. Da gennyf gofnodi fod rhai cannoedd ohonoch wedi gwneud hynny, ond ar 23 Mai 2002, caniataodd i'r cais datblygu fynd rhagddo.
Ond, ni dderbyniom ei dyfarniad, ac o fewn chwe wythnos i'r amser penodedig, apeliom am adolygiad barnwrol i'r ddedfryd. Cafwyd gwrandawiad rhagarweiniol yn yr Uchel Lys Barn yn Llundain ar 19 Rhagfyr 2002 a'n bargyfreithwyr oedd yr Arglwydd Alex Carlile QC, Neville Thomas QC ynghyd â bargyfreithiwr ieuaf, Wyn Lloyd Jones. Wedi hir ddadlau, addawodd y Barnwr y rhoddai ei ddedfryd ymhen ychydig ddyddiau. Yn anffodus, nid oedd o'r farn bod gennym achos i haeddu Ymchwiliad Cyhoeddus. Felly, bydd 39 o dyrbinau enfawr yn cael eu codi ar y tirlun dan sylw, gan General Electric o America.
O ddeall bod ceisiadau llai eu datblygiad wedi'u cofnodi i gael ymchwiliad cyhoeddus, rydym yn dra siomedig na roddwyd yr un cyfle ag ystyriaeth i ni - gwrthwynebwyr Cefn Croes, - a phenderfynom yn wyneb hynny, ysgrifennu hanes y frwydr fel y bydd ar gof a chadw. Mawr obeithiwn y cyhoeddir y llyfryn cyn cychwyn yr adeiladu. Felly, os oes gan un ohonoch unrhyw wybodaeth/hanesyn y tybiwch y dylasai gael ei gynnwys yn y llyfryn, yna cysylltwch yn ddiymdroi â Kaye Little, Tan-y-glog, Cwmystwyth, Ceredigion, SY23 3AF.
Diolchwn yn gynnes i bawb a'n cefnogodd i geisio cadw mawredd ein tirlun yn ddigyfnewid yng Nghanolbarth Cymru. Er colli'r frwydr, erys y gwrthwynebiad yr un mor gryf.
Deallwn fod cais Cymuned Camddwr ar fîn cael ei gyflwyno am ganiatâd i godi 165 o'r tyrbinau mwyaf yn Ewrop, ac sydd yn 400' o uchder, rhwng Strata Florida a Llyn Brianne. Gwypir fod yna lawer o fân gynlluniau eto ar y gweill yn ymwneud â Bryniau Maesyfed. Hefyd, bwriedir codi llawer ohonynt yn ucheldir Gogledd Lloegr a'r Alban.
Hoffem gydnabod hefyd gymorth parod Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig a Country Guardian yn ein brwydr pan elem ar eu gofyn.
Beth ellir ei wneud? Wel, ysgrifennwch at eich Aelod Seneddol, Aelod Cynulliad a'ch Aelod Ewropeaidd, gan nodi eich anfodlonrwydd a'ch dicter am ddifrodi y tirlun a hynny am gyn lleied o elw hefyd. Mae'n rhaid i ni barhau i bwyso a darbwyllo cyn bydd y wlad hon yn un ffactori enfawr o felinau gwynt. Ynys fechan yw Prydain, ac yn sail hynny, bydd yr anferthed yma i weld o bob bryncyn a chyfeiriad. Ni allwn fforddio colli ein treftadaeth naturiol a ninnau mor ymwybodol cymaint yw dibyniad diwydiant twristiaeth arno.
| HANES (Saesneg yn unig) |
PRIF TUDALEN | MAP LLEOLIAD | CYSYLLTIADAU ALLANOL |