Ewch
Newyddion yr Annibynwyr Cymraeg
Apel Swdan
Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, fel rhai enwadau eraill yng Nghymru, o bryd i'w gilydd yn gwneud Apel Fawr yn enw Cymorth Cristnogol er budd a lles rhywrai yng ngwledydd tlawd y byd. Yng Nghyfarfodydd Blynyddol yr Undeb ym 1997, cytunwyd mai i gefnogi nifer o brosiectau gwahanol yn Ne Swdan y byddai i'r Apel a gesglid yn ystod 1997-98 fynd. Gosodwyd nod i eglwysi enwad yr Annibynywyr Cymraeg o £100,000.
Anfonwyd un o weinidogion yr enwad, Y Parchg. Robin Wyn Samuel, Penybont-ar-Ogwr, i Dde Swdan am gyfnod i fod yn llygad-dyst i'r hyn a ddigwyddai yno, ac i'r angen yr oedd cynifer ynddo. Wedi iddo ddychwelyd, bu'n crwydro Cymru gan annerch cyfarfodydd a son am ei brofiadau. Ymroes llawer eglwys a chylch drwy ddulliau amrywiol i godi arian i hybu'r Apel.
Pan ddaeth Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb yn Nolgellau ym 1998, yr oedd y nod a osodwyd wedi ei basio, a rhyw £56,000 yn rhagor wedi ei gasglu. Dal i ddod i fewn y mae'r arian, ac ar adeg ysgrifennu'r geiriau hyn, y mae cyfanswm o £187185.00 wedi ei gasglu gan enwad yr Annibynwyr Cymraeg i Gymorth Cristnogol i'w ddefnyddio yn Ne Swdan.
![]()
Torri Tir Newydd yn Hanes yr Annibynwyr Cymraeg
Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi gwneud rhywbeth ym 1998 na wnaeth erioed yn ei hanes cyn hynny.
Dros lawer o flynyddoedd, anfonodd yr enwad genhadon, yn feibion a merched, i wasanaethu yn enw'r Efengyl mewn gwahanol rannau o'r byd. Cenhadon o blith yr Annibynwyr Cymraeg oedd cenhadon Protestannaidd cyntaf Ynys Madagascar. Cenhadwr o blith Annibynwyr Cymru oedd merthyr Cristionogol cyntaf Corea. Ond os anfonwyd llawer, ni wahoddwyd cenhadwr o dramor i Gymru gan yr Annibynwyr hyd eleni.
Ganol mis Mai 1998 daeth y Parchg. Hmar Sangkhuma o Eglwys Bresbyteraidd India gyda'i deulu i wasanaethu enwad yr Annibynwyr fel Ysgogydd Cenhadol. Dod a wna am gyfnod o ddwy flynedd. Yr oedd enw 'Cymru''n enw cyfarwydd iddo, gan mai cenhadon o Gymru - o Eglwys Bresbyteraidd Cymru - a fu'n gyfrifol am ddwyn yr Efengyl i Ogledd Ddwyrain India. Daw i ysgogi a hyrwyddo'r Annibynwyr yn eu cenhadaeth, gan rannu o wefr a phrofiad yr Eglwys mewn rhan arall o'r byd.