Ewch

Ceir Rhifynnau 128 a 127 ar y dudalen hon.

Rhifyn 128 - Hydref, Tachwedd a Rhagfyr

Cyflwyniad

Weithiau, gall cylchgrawn cydenwadol fel Ewch wneud dim amgenach nag wylo deigryn yn y môr. Yn y rhifyn hwn byddwn yn canolbwyntio ar hawliau dynol. Mewn sawl gwlad mae ein cyd-ddynion a'n cydwragedd yn dioddef yn enbyd. Ar y clawr hwn, ceir llun trist o wraig ifanc o Niger yn gorfod troi at buteindra i gynnal bywoliaeth. Bu unwaith yn forwyn.

Yn ôl pob golwg, ceir gagendor mawr rhwng datganiad y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol â realiti bywyd mewn gwlad fel Niger - y wlad dlotaf ar wyneb daear.

Felly hefyd, hanes Arlindo Marcal o Dwyrain Timor. Collodd dros 200,000 o drigolion Dwyrain Timor eu bywydau dan ormes Indonesia. Gwlad greulon yw Indonesia sy'n parhau i dderbyn ei chleddyf o law waedlyd y Deyrnas Unedig. Y mae Herod dal ar waith.

Prif neges y rhifyn hwn yw datgan yn glir y gall yr hyn a wnawn ni wneud gwahaniaeth sylweddol ym maes hawliau dynol. Cyfeirir yn glir ac yn gryno at ddylanwad y cyhoedd yn achos De Affrica. Gall un Cristion wneud byd o wahaniaeth.

Yn nhymor yr Adfent, byddwn yn disgwyl yn eiddgar am ddychweliad y Crist a ddygodd ddyndod at Dduwdod. Fe ddaw yn ôl fel Mab y Dyn. Gan nesau yn raddol at y Nadolig, priodol hefyd yw i ni gofio'r Gair a ddaeth yn gnawd i'n plith. Y mae'r urddas diwinyddol sy'n cael ei osod ar ddynoliaeth yr adeg yma o'r flwyddyn yn gwbl unigryw i'r Ffydd Gristnogol. Meiddiwn gredu i'n Duw ni ddod yn gnawd i'n plith ac iddo gymryd dyn trwy'r groes, yr atgyfodiad a'r esgyniad at ddeheulaw Duw. Heresi yw i'r Cristion anwybyddu hawliau dynol.

Gwahoddir chwi i ymweld â safle Ewch ar y We. Dyma'r cyfeiriad: http://users.globalnet.co.uk/~aled/

Gofynnir hefyd ar i chwi anfon cyfeiriad eich e-bost atom er mwyn i ni gadw mewn cysylltiad. Gobeithiwn yn fawr y gallwn ennyn digon o ddiddordeb i gynnal cylch trafod ar genhadu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Golygydd: Y Parchedig Aled Edwards, Hafod-lon, 51 Heath Park Avenue, Caerdydd, CF4 3RF. Ffôn Caerdydd (01222) 751418 (e-bost aled@globalnet.co.uk). Cyhoeddir gan Gymdeithas Genhadol Eglwysi Cymru. Argraffwyd gan Wasg John Penri. Abertawe.

Golygyddol

Yn ystod tymor yr Adfent byddwn yn darparu ar gyfer y pethau newydd. Edrychwn ymlaen fel Cristnogion at ddyfodiad Crist yn ei fawredd, yn frenin daear a nef newydd. Gan gofio hyn, pleser mawr i mi yw cael cyflwyno gwasanaeth cenhadol newydd ar gyfer Cristnogion Cymraeg yma yng Nghymru ac ym mhob gwlad arall ar wyneb daear. Bellach, gellir darllen Ewch yn yr holl fyd drwy gyfrwng y We. Ewch i ymweld â'n safle ni ar: http://www.users.globalnet.co.uk/~aled/

Wedi dweud hyn, nid prif bwrpas y gwasanaeth newydd hwn yw caniatáu i eraill mewn gwledydd tramor ddarllen ein bwletin cenhadol pob chwarter. Ceir llawer mwy na hynny ar ein tudalennau ar y We.

Yn gyntaf oll, gellir elwa ar nifer o gysylltiadau defnyddiol: enwadau, cymdeithasau cenhadol, cynulleidfaoedd Cymraeg, adran newyddion y BBC a safleoedd nifer o eglwysi a chapeli Cymraeg mewn gwledydd eraill. Ffurfiwyd cysylltiad buddiol â safle Cyngor Ysgolion Sul Cymru a gallwch ymweld â siop llyfrau Cristnogol ar y rhyngrwyd. Sefydlwyd dolenni uniongyrchol â Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r Swyddfa Gymreig. Gellir cysylltu â'r rhain i gyd drwy wasgu bys ar lygoden fach y cyfrifiadur.

Y mae gan Ewch Arlein ddigon o le ar y rhyngrwyd ac oherwydd hyn rhoddwyd modd i ni gynnwys erthyglau diddorol ni ellir eu cynnwys yn ein rhifyn chwarterol. Cafwyd cornel weddi er mwyn ysgogi ymwelwyr â'r safle i weddïo dros yr hyn sy'n cael ei drafod a rhoddwyd modd hynod o hwylus ar bob tudalen o'r bron i'r darllenwyr anfon gair at y Golygydd i lawr yr e-bost.

Nid chwilen gyfoes ar gyfer y rhai hynny sy'n chwarae â chyfrifiaduron yw'r gwasanaeth hwn. Erbyn hyn, y mae llu o weinidogion ac offeiriaid ar y rhyngrwyd. Diddorol iawn eleni oedd derbyn llawlyfr Esgobaeth Llandaf. Y mae bron pob offeiriaid ifainc yn arddel cyfeiriad e-bost ac yn defnyddio'r We. Y mae plant a phobl ifainc hefyd yn ei ddefnyddio'n helaeth nid yn unig yn yr ysgolion ond yn eu cartrefi yn ogystal. Dengys cipolwg ar Ninnau, papur bro Cymry Gogledd America, sut y mae ein brodyr a'n chwiorydd sy'n byw mewn gwledydd tramor yn defnyddio'r rhyngrwyd. Cyfeirir at sawl safle ar y We. O fewn ychydig ddyddiau o gyhoeddi bodolaeth Ewch Arlein cafwyd dros 100 o ymweliadau â'n safle.

Gofynnir yn daer arnoch i ddefnyddio'r gwasanaeth sy'n cael ei adeiladu gan Ewch Arlein: defnyddiwch y dolenni uniongyrchol; anfonwch eich llythyrau i drafod ac i awgrymu gwelliannau i'n gwasanaeth; gadewch i ni wybod am y cynulleidfaoedd Cymraeg hynny sydd eisoes ar y We; anfonwch newyddion a chyhoeddiadau ynghylch eich ymdrechion cenhadol chi yn lleol; rhowch gymorth i ni ddarparu cornel weddi fendithiol; ac yn fwy na dim, cysylltwch â ni i drafod cenhadaeth ein heglwysi a'n capeli. Da chi, defnyddiwch y gwasanaeth newydd hwn.

Os nad oes gennych gyfrifiadur heb sôn am gysylltiad â'r rhyngrwyd, peidiwch da chi â gofidio na theimlo fel dinasyddion eilradd. Gobeithir yn fawr y bydd yr ymateb a geir i Ewch Arlein yn ein galluogi i gyfoethogi'r hyn a osodir yn chwarterol ar bapur. Anfonwch eich llythyrau drwy'r post. Gellir eu cynnwys ar ein safle yn union yr un fath. Carwn ddymuno pob bendith i chwi ar drothwy tymor yr Adfent. Wrth i ni ystyried lledaeniad gair ar hyd wyneb daear, fe gofiwn y Gair a ddaeth yn gnawd ac fe barchwn y ddynoliaeth a gyffyrddwyd â duwdod. Priodol hefyd yn ystod y tymor hwn yw i ni gofio'r Crist a gymerodd y dyndod at Dduw, y Crist a ddaw drachefn i'n plith. Os gall Crist ddwyn y fath barch ar ddynoliaeth, fe allwn ninnau hefyd.

Erthygl ar y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol

O Efrog Newydd i Bencoed - 50 mlynedd o Hawliau Dynol!

A hithau'n flwyddyn dathlu hanner can mlwyddiant cyhoeddi'r 'Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol' Richard Gwyn Jones, Swyddog Gweithredol, Canolfan Materion Rhyngwladol sy'n egluro pam aeth y Ganolfan ati i ail-gyhoeddi'r Datganiad eleni.

Ar y I0 fed o Ragfyr 1948 yn Efrog Newydd mabwysiadodd a chyhoeddodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. Eto hanner can mlynedd yn ddiweddarach yn hytrach na gostwng, mae'r achosion o dramgwyddo hawliau dynol yn codi. Ar y radio, y teledu ac yn y papurau newydd fe glywn am hawliau dynol yn cael eu tramgwyddo ym mhob cwr o'r byd - yn Algeria, Bosnia, Indonesia, Irac, Kosovo, ac yn y blaen.

Pa mor berthnasol felly yw'r Datganiad? Oes gan y Cenhedloedd Unedig y grym a'r ewyllys bellach i sicrhau gwell hawliau dynol i bob unigolyn?

Un a fu'n ymgyrchu dros y blynyddoedd am well hawliau dynol yw Myriel Davies o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig. Bu hi'n gweithio'n ddiflino dros amcanion y Cenhedloedd Unedig (CU) 'o arbed cenedlaethau'r dyfodol rhag rhyfel.... ac ail ddatgan ffydd yn hawliau sylfaenol dynolryw'. Myriel hefyd lansiodd y diweddariad dwyieithog newydd o'r Datganiad yn Eisteddfod Bro Ogwr ym Mhencoed ym mis Awst. 'Ein gobaith trwy gyhoeddi'r ddogfen hon yw codi ymwybyddiaeth pobl Cymru o hawliau dynol sylfaenol ac i ail-ddatgan ein hymrwymiad i'r hawliau hynny.' Barn Myriel yw bod hi'n anochel bod yr ymgyrch dros hawliau dynol yn parhau. Yn ei thyb hi y CU yw'r corff mwyaf addas i sicrhau gwell hawliau dynol. Er ei bod yn cydnabod nad yw'r CU wedi llwyddo bob tro yn eu hymdrechion mae'n pwysleisio pwysigrwydd llwyddiannau y CU ym maes hawliau dynol. Cymerwch, enghraifft De Affrig lle heriwyd system apartheid gan unigolion a chenhedloedd o amgylch y byd - oll yn mynnu hawliau cyfartal i bob un o bobl De Affrig beth bynnag fo'u lliw. Bellach dan arweiniad Arlywydd Mandela mae'r wlad honno yn cychwyn ar gyfnod newydd, er caled, o gyfaddawdu a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Gwlad arall yn neheubarth yr Affrig sydd wedi manteisio o waith y Cenhedloedd Unedig yw Namibia. Yno llwyddwyd gwireddu erthygl 21 o'r Datganiad sef bod 'gan bawb hawl i gymryd rhan yn llywodraeth eu gwlad ac i ddewis llywodraeth eu gwlad' trwy sicrhau etholiadau teg a gwladwriaeth ddemocrataidd.

Yn yr un modd mae'r Datganiad wedi arwain at lwyddiannau sylweddol ym maes hawliau plant. Mae'r 'Confensiwn ar Hawliau Plant' a arwyddwyd gan 191 o wledydd y byd (hynny yw pob gwlad namyn dau) yn caniatáu i fudiadau megis UNICEF i weithio er mwyn gwarchod plant rhag ymladd mewn byddinoedd, neu weithio mewn amgylcheddau peryglus.

Ond tra'n dathlu'r hanner can mlwyddiant rhaid cofio am y rhai hynny sy'n parhau i frwydro am hawliau sylfaenol eu cyd-ddyn. Un o'r rhain yw José Ramos Horta enillydd gwobr heddwch Nobel a alltudiwyd o'i wlad, Dwyrain Timor, dros ugain mlynedd yn ôl. Bu Horta yng Nghymru yn ddiweddar i annog cefnogwyr Ymgyrch Dwyrain Timor / Atal yr Hawks i barhau a'u hymdrechion i fynnu hawliau sylfaenol i bobl Dwyrain Timor yn erbyn gormes a thrais llywodraeth Indonesia. Nid oes gan bobl Dwyrain Timor yr un hawl o dan y system bresennol - nid hyd yn oed yr hawl sylfaenol i 'fywyd, rhyddid a diogelwch' - ac ers 1975 lladdwyd dros 200,000 o ddinasyddion di-fai.

Mae yna lawer o enghreifftiau yma yng Nghymru o bobl sy'n gweithio dros hawliau pobl tramor. Mae Moonira Allen, gwraig o Gaerdydd wrthi'n ymgyrchu am ryddid i dros 600 o bobl Kuwait nas ddychwelodd i'w gwlad wedi rhyfel y Gwlff ac sydd wedi cael eu carcharu yn Irac. Sefydlwyd Ymgyrch Gorllewin Sahara Cymru yn ddiweddar i gefnogi galwad pobl Gorllewin Sahara am refferendwm ar annibyniaeth.

Gyda'r fath ddirmyg o hawliau dynol mae'n anodd gweld gwerth i'r Datganiad. Ond mae'n rhaid cofio mai nod i'w anelu ato yw'r Datganiad, nid dogfen gyfreithiol. Mae'n uchelgeisiol ac yn arf grymus i ddiogelu hawliau dynol sylfaenol. Mae pob gwlad sy'n aelod o'r CU wedi datgan eu hymrwymiad i barchu hawliau dynol. Trwy ddysgu am hawliau dynol gallwn amddiffyn ein hawliau ni ein hunain ac ar yr un pryd amddiffyn hawliau y rhai hynny na wyddant beth yw eu hawliau.

Dyna felly fu'r sbardun i'r Ganolfan fynd ati i ail-gyhoeddi'r ddogfen ar ffurf ddwyieithog, er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod neu'n cael eu hatgoffa am eu hawliau.

Beth felly yw'r hawliau hynny?

Mae'r erthygl cyntaf yn pwysleisio bod pawb yn rhydd ac yn gydradd, tra bod yr ail erthygl yn gosod yr egwyddor bod hawliau dynol yn perthyn i bawb, beth bynnag eu hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn boliticaidd neu unrhyw beth arall sy'n eu gwneud yn wahanol i bobl eraill. Mae'r 19 erthygl nesaf yn ddatganiad o hawliau sifil a gwleidyddol:

Hawl i fywyd, rhyddid a diogelwch Rhyddid rhag caethwasiaeth Rhyddid rhag cael eich poenydio na'ch cosbi'n greulon mewn ffordd ddiraddiol Cydnabyddiaeth fel unigolion yng ngolwg y gyfraith Cydraddoldeb yng ngolwg y gyfraith Cymorth gan y llysoedd pan nad yw eich hawliau yn cael eu parchu Rhyddid rhag cael eich arestio, eich carcharu na'ch alltudio heb reswm teg Hawl i gael gwrandawiad teg a chyhoeddus gan lys annibynnol a diduedd Hawl i gael eich ystyried yn ddieuog tan y'ch profir yn euog Hawl i fywyd preifat Hawl i fyw lle y mynnwch o fewn eich gwlad, i'w gadael ac i ddychwelyd iddi Hawl i geisio am noddfa mewn gwlad arall rhag erledigaeth Hawl i berthyn i wlad Hawl i briodi a chael teulu Hawl i berchen eiddo Hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd Hawl i ryddid barn a'r hawl i'w fynegi Hawl i ffurfio cymdeithasau, ac i ymgynnull heddychlon Hawl i gymryd rhan yn llywodraeth eich gwlad

Mae'r chwe erthygl nesa yn canolbwyntio ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol:

Hawl i nawdd cymdeithasol Hawl i waith, i amodau gwaith rhesymol, i dâl teg ac i ymuno ag undebau llafur Hawl i orffwys a hamdden Hawl i safon byw digonol Hawl i addysg Hawl i gymryd rhan ym mywyd diwylliannol eich cymdeithas Hawl i drefn gymdeithasol a rhyngwladol

Mae erthygl 29 yn datgan bod gan bawb ddyletswydd i'w cymdeithas ac mae erthygl 30 yn datgan nad oes gan neb yr hawl i weithredu gyda'r bwriad o ddistrywio unrhyw un o'r hawliau hyn.

Wrth werthuso'r Datganiad rhaid cydnabod ynghyd â'r cryfderau bod iddo hefyd ei wendidau. Pa sôn sydd am yr amgylchedd? Beth am ein dyletswyddau ynghyd â'n hawliau? Mae'n werth ystyried hefyd pa mor berthnasol yw dogfen a luniwyd gan wledydd y Gorllewin i wledydd datblygol y Trydydd Byd. Er bod sylwedd y Datganiad yn parhau yn gyfoes, wrth i'r Cenhedloedd Unedig asesu ei rôl mewn byd sydd yn prysur newid oni ddylai hefyd ystyried ffurfio consensws byd-eang ar safonau o hawliau dynol?

SUT MAE MYND ATI I WNEUD SAFIAD DROS HAWLIAU DYNOL? DYMA DRI CAM SYML:

Cymerwch erthygl pedwar ar bymtheg o'r Datganiad 'Mae gan bawb ryddid barn a'r hawl i'w fynegi.' Gallwn ddefnyddio'r hawl honno yn syml trwy brotestio, ysgrifennu lythyr cwyn i bapur newydd ac ati. A gallwn fynd ymhellach. Gallwn ysgrifennu at Aelod Seneddol lleol am bolisi'r llywodraeth i werthu arfau i lywodraeth Indonesia sy'n tramgwyddo hawliau dynol yn Nwyrain Timor. Er na wna un llythyr newid y byd, mae enghraifft De Affrig yn dangos sut gall barn gyhoeddus effeithio ar bolisïau llywodraeth a gorchfygu anghyfiawnderau.

Dysgwch am eich hawliau trwy archebu PECYN HAWLIAU DYNOL (sy'n cynnwys copi o'r Datganiad llawn ar ffurf llyfryn a phoster, diweddariad syml o'r hawliau a gwybodaeth am sut i HYBU HAWLIAU DYNOL).

Ewch ati fel cymuned, capel, grp, ysgol,neu glwb i ddysgu am achosion o dramgwyddo hawliau dynol trwy gysylltu â Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig, Amnest Rhyngwladol neu grp ymgyrchu arall.

Mynnwch eich llais ac ysgrifennwch at eich Aelod Seneddol, neu ewch ati i drefnu digwyddiad i ddenu sylw'r cyfryngau.

Cofiwch fod yna unigolion trwy'r byd yn ymgyrchu am yr un amcanion â chi ac na fyddwch byth ar eich pen eich hun.

Am wybodaeth bellach am ymgyrch Hybu Hawliau Dynol ysgrifennwch at Richard Jones, UNA Cymru, Canolfan Materion Rhyngwladol, Y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd CF1 3AP

Gwragedd y Treisio yn Rwanda

Mae'r llun hwn yn rhyfeddol. Cafodd pob un o'r gwragedd hyn eu treisio a'u hamharchu yn ystod hil-laddiad Rwanda yn y cyfnod rhwng Ebrill a Gorffennaf, 1994. Roedd treisio merched ifainc yn erfyn cwbl fwriadol yn y brwydro. Aeth sawl un yn feichiog a chan nad oedd modd i'r mwyafrif erthylu'r embryonau, maent bellach yn famau yn magu plant.

Oherwydd iddynt gael eu treisio gan sawl dyn ar y tro mae nifer helaeth wedi eu heintio gan y firws HIV. Mae llawer ohonynt, oherwydd eu pryderon , yn gwrthod cymryd y prawf. Mae pob un yn dioddef sgil effeithiau trawma erchyll. Mae nifer mawr yn marw o AIDS ac angen nyrsio terfynol.

Gofynnir am ein gweddiau dros y Mbwira Initiative (sy'n golygu "Llefara, yr wyf yn gwrando") sydd wedi llwyddo i ddod â rhai o'r gwragedd a ddioddefodd yr erchyllterau hyn a'u teuluoedd at eu gilydd dan nawdd Sefydliad Barakabahaho. Cafwyd ymdrech i ddarparu gwasnaeth sy'n trafod dioddefiadau benywod yr hil-laddiad.

Ceir gwybodaeth bellach gan y Mbwira Ndumva Initiative, B.P. 2507 - Kigali Rwanda. Tel: 250 - 74258 (swyddfa) 250 - 74397 (cartref) Ffacs: 250 - 77831.

{Os ydych am gyflwyno rhodd tuag at y gwaith rhagorol hwn, gallwch gysylltu â'r Golygydd).

Gweinidog o Dwyrain Timor yn Galw am Weithredu

Ymwelodd y Parchedig Arlindo Marcal, Llywydd yr Eglwys Brotestannaidd yn Dwyrain Timor â Phrydain yn ddiweddar gan alw am weithredu. Colin Cockshaw, gweithiwr maes gyda USPG a drefnodd ymweliad Arlino â St. Albans a Milton Keyns sy'n dweud yr hanes.

Cafodd Dwyrain Timor, gwlad a fu ar un cyfnod yn dirogaeth o eiddo Portiwgal, ei goresgyn gan Indonesia yn 1975. Ers hynny, bu'r wlad ym meddiant Indonesia. Er gwaethaf y pwysau rhyngwladol, ychdig a wnawd i gynnal statws Dwyrain Timor a hawl ei phobl i hunanlywodraeth. Wedi dweud hyn, erys ymrafael pobl Dwyrain Timor yn erbyn goresgyniad Indonesia. Collodd dros 200,000 eu bywydau.

Adeg y goresgyniad, bachgen 15 oed oedd Arlindo. Fel nifer o frodorion eraill, aeth teulu Arlindo i ffoi i'r mynyddoedd lle y buont yn byw fel ffoaduriaid, yn cael eu hymlid gan fyddin Indonesia am gyfnod o bedair blynedd. Rhoddodd y cyfnod hwn ymdeimlad cryf i Arlindo o'r anghyfiawnder a wnaethpwyd i'w bobl a phendyrfynnodd i siarad drostynt â llais urddasol tawel sy'n cuddio'r angerdd a'r poen y mae'n ei deimlo.

Wedi iddo beidio â chuddio, cafodd Arlindo ei arestio a'i ddal mewn carchar. Cafodd ei fywyd ei osod dan fygythiad, ond fe'i rhyddhawyd cyn iddo ffoi i Orllewin Timor a dechrau ei astudiaethau diwinyddol. Cwblhawyd ei hyfforddiant mewn Prifysgol Gristnogol yn Java ac fe'i gosodwyd mewn gofal o Eglwys Brotestannaidd fechan.

Goresgynwyd Dwyrain Timor nid yn unig gan fyddin ond gan bobl o Java a pharthau eraill o Indonesia sy'n cael eu hannog i ymgartrefu yno drwy gynnig tir, tai, gwaith a manteision trethiannol. Cymerir llawer o gyfoeth Dwyrain Timor gan bobl o Indonesia sydd erbyn hyn yn ffurfio rhan sylweddol o'r boblogaeth. Adlewyrchir hyn yn natur yr Eglwys Brotestannaidd sy'n cynnwys pobl o Ddwyrain Timor ac o Indonesia. Mae gwraig Arlindo yn hannu o Java ac yn swyddog yn y fyddin.

Siaradodd Arlindo am ei Eglwys fel corff rhanedig - y rhai a oresgynodd a'r rhai a gafodd eu goresgyn. Yn amlwg. mae'n annodd i'r Eglwys hon siarad ag un llais, ond y mae Arlindo yn llefaru yn huawdl fel Cristion am boen ei bobl. Y Beibl, medd ef, yw'r cyfrwng sy'n cyfleu ei neges.

Trwy gydol ei gyfnod ym Mhrydain cafodd Arlindo ei boeni gan yr ansefydlogrwydd gwleidyddol yn Indonesia. 'Dwi'n teimlo fel bod perthynas agos yn wael a charwn fod wrth ei hochr.' Eto'i gyd, mae'n parhau â'i waith. Wrth i bethau ddatblygu dechreuodd siarad yn gadarnhaol am y cyfle i ddwyn gerbron y cyhoedd, y sefyllfa yn Dwyrain Timor a'r angen am hunan lywodraeth.

Mae Arlindo yn gofyn i ni ysgrifennu at ein haelod seneddol ac at Robin Cook er mwyn ennyn cefnogaeth llywodraeth Prydain i'w ddyheuad am hunan lywodraeth, ac i gofio am ei eglwys a'i bobl yn ein gweddiau.

Chwilio am Ffordd Allan

Y mae'n hawdd troi at buteindra, ond y mae troi oddi wrtho yn annodd.

'Dwi'n casau popeth an y gwaith yma,' meddai Stella. 'Tydi hwn ddim yn waith y mae Duw yn ei hoffi. Ond dyma'r broblem - toes gen i mor arian i fynd adref.'

Y mae Stella yn un o 2,000 o buteiniaid yn Niamey, prifddinas Niger, Gorllewin Affrica, y wlad dlotaf yn y byd. Roedd hi yn y brifysgol adeg marwolaeth ei mam a gadawyd hi heb yr un geiniog i'w henw. Methodd ganfod unrhyw waith arall.

Fel sawl putain yn Niamey, cafodd Stella ei pherswadio i adael ei chartref yn Nigeria i ddod yno. Dywedwyd wrthi y byddai'n gwneud ei ffortiwn yn . Fel y rhelyw, carai fynd adref.

Y mae Joseph a Melrose Maroh, o Calvary Ministries, partneriaid i Tearfund, wedi sefydlu canolfan, math o noddfa, yng nghanol y ddinas. 'Carem weld y gwragedd yn troi oddi wrth buteindra ac yn dechrau gweld eu hunain fel pobl newydd sy'n medru byw hebddo' meddai Joseph.

Cenhadaeth o Nigeria yw Calvary Ministries sy'n gweithio ymysg pobl ifainc a phuteiniaid. Bu grant o £ 17,000 gan Tearfund o gymorth mawr wrth iddynt sefydlu canolfan lle y gall gwragedd feithrin sgiliau newydd: celf, teilwriaeth a llythrennedd - ynghyd â chymorth bugeiliol a gweddi. Os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gallant aros.

Wedi dweud hyn, hyd yn oed os ydynt am adael puteindra, bydd llawer yn canfod eu hunain yn methu torri'n rhydd, yn arbennig os ydynt mewn dyled neu â phlant i'w magu. Y mae ystafell concrit noeth Stella gydag un fatras a golau strip, yn costio £17.50 y mis. Bydd dynion yn talu rhwng 50c a £1 am ryw. Yn achlysurol, byddant yn talu mwy.

'Weithiau, gall y gwaith yma dorri eich calon,' meddai Joseph. 'Ond beth bynnag yw'r her a'r gost, mae'r cyfan werth yr ymdrech..'

Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol

Erthygl 1 Genir pawb yn rhydd ac yn gydradd.

Erthygl 2 Mae'r holl hawliau hyn yn perthyn i bawb, beth bynnag eu hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd neu farn boliticaidd.

Erthygl 3 Y mae gan bawb hawl i fywyd, rhyddid a diogelwch.

Erthygl 4 Ni ddylai neb gael eu caethiwo.

Erthygl 5 Ni ddylai neb gael eu poenydio na'u cosbi'n greulon mewn ffordd ddiraddiol.

Erthygl 6 Mae pawb yn cael eu cydnabod fel unigolion yng ngolwg y gyfraith.

Erthygl 7 Mae pawb yn gydradd yng ngolwg y gyfraith.

Erthygl 8 Mae gan bawb hawl i gymorth gan y llysoedd yn eu gwlad os nad ydynt yn cael eu hawliau yn ôl y gyfraith.

Erthygl 9 Ni ddylai neb gael eu harestio, eu carcharu na'u halltudio heb reswm teg.

Erthygl 10 Mae gan bawb hawl i gael gwrandawiad teg a chyhoeddus gan lys annibynnol a diduedd.

Erthygl 11 Mae gan bawb a gyhuddir o drosedd hawl i gael eu hystyried yn ddieuog tan y profir hwynt yn euog.

Erthygl 12 Mae gan bawb hawl i fywyd preifat yn eu teulu, a'u cartref, a'u gohebiaeth.

Erthygl 13 Mae gan bawb hawl i fyw lle y mynnant o fewn eu gwlad, i'w gadael ac i ddychwelyd iddi.

Erthygl 14 Mae gan bawb hawl i geisio am noddfa mewn gwlad arall rhag erledigaeth.

Erthygl 15 Mae gan bawb hawl i berthyn i wlad.

Erthygl 16 Mae gan bob dyn a gwraig mewn oed hawl i briodi a chael teulu.

Erthygl 17 Mae gan bawb hawl i berchen eiddo.

Erthygl 18 Mae gan bawb hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd.

Erthygl 19 Mae gan bawb ryddid barn a'r hawl i'w fynegi.

Erthygl 20 Mae gan bawb hawl i ffurfio cymdeithasau, i ymgynnull yn heddychlon, ac i ddewis peidio â chymryd rhan mewn unrhyw gymdeithas.

Erthygl 21 Mae gan bawb hawl i gymryd rhan yn llywodraeth eu gwlad ac i ddewis llywodraeth eu gwlad.

Erthygl 22 Mae gan bawb hawl i nawdd cymdeithasol ac i hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

Erthygl 23 Mae gan bawb hawl i waith, i amodau gwaith rhesymol, i dâl teg ac i ymuno ag undebau llafur.

Erthygl 24 Mae gan bawb hawl i orffwys, hamdden a gwyliau o'u gwaith.

Erthygl 25 Mae gan bawb hawl i safon byw digonol.

Erthygl 26 Mae gan bawb hawl i addysg.

Erthygl 27 Mae gan bawb hawl i gymryd rhan ym mywyd diwylliannol eu cymdeithas.

Erthygl 28 Mae gan bawb hawl i drefn gymdeithasol a rhyngwladol lle y gellir llawn sylweddoli'r hawliau hyn.

Erthygl 29 Mae gan bawb ddyletswydd i'w cymdeithas.

Erthygl 30 Does dim yn y Datganiad hwn a ellir ei ddehongli i olygu bod unrhyw hawl i gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd neu i gyflawni unrhyw weithred gyda'r bwriad o ddistrywio unrhyw un o'r hawliau hyn.

Rhifyn 127 - Gorffennaf, Awst a Medi 1998

Cyflwyniad

Gyda hyn, bydd nifer fawr o Gymry ifainc yn symud oddi cartref i golegau a phrifysgolion i ddechrau bywyd newydd. I deuluoedd, gall y profiad hwn fod yn anodd, nid yn unig oherwydd yr holl droeon emosiynol, ond mewn ambell fan, ceir pryderon ynghylch arian ac agweddau ymarferol eraill.

Bydd y profiad yn un rhyfedd i rieni. Cafwyd cyfle i ddathlu llwyddiant a thro arall mewn bywyd sy'n dynodi datblygiad ac aeddfedrwydd. Y mae'n rhaid i'r cywion adael y nyth. Ond, gadewir bwlch ac erys pryder wrth ollwng gafael.

I'r bobl ifainc eu hunain, daeth cyfle i ymledaenu ac i fentro. Ond yng nghalonnau y mwyafrif, ymysg yr holl ddathlu a phrysuro, ceir ofnau a phryderon ddigon naturiol.'Beth bynnag yw eu pryderon a'u hofnau, bydd y mwyafrif llethol o'n pobl ifainc yn manteisio ar y cyfle i dorri cysylltiadau pellach â'r traddodiad Cristnogol. Nifer fechan iawn fydd yn arddel unrhyw berthynas a man addoliad. Can gyfle i fyw, i ddathlu ac i wylo mewn mannau eraill.

Ceir ymdrech yma i drafod anghenion a gobeithion y Cool Cymry newydd sy'n tyfu yn y tir. Da hefyd yw clywed am ymdrechion ym Mangor a Chaerdydd i ddwyn yr Eglwys i fyd y llu o fyfyrwyr sydd i'w canfod yn ein dinasoedd Cymreig. Ceir persbectif arbennig ar ofynion gweithio ymysg myfyrwyr tramor mewn dinasoedd fel Llundain.

Yn y rhifyn hwn, byddwn yn cofio'r bobl ifainc hyn a'u teuluoedd a gweddïwn dros y rhai sy'n ymwneud â byd addysg.

Da oedd clywed am ddau apwyntiad rhagorol ar ran Cyngor Cytûn. Bydd y Parchedig Gethin Abraham Williams yn dechrau ei waith fel Ysgrifennydd Cyffredinol ar 1 Tachwedd. Dymunwn yn dda iddo ef a'i deulu. Felly hefyd Ben Gregory fydd yn gweithio fel Gweithiwr Maes Jiwbilî 2000 yng Nghymru. Y mae eisoes wedi dechrau ymgymryd a'i gyfrifoldebau newydd. Bu'n weithgar iawn mewn perthynas a Jiwbilî eisoes drwy feithrin ymgyrchu a chymell pobl, yn fwyaf arbennig yng ngogledd Cymru, i fynd i Firmingham i' r digwyddiad Jiwbilî adeg cyfarfod y G8.

Aled Edwards 'Y Golygydd yn Mwynhau Parti Ponty'

Bu'r newidiadau a gafwyd ym myd Radio Cymru yn destun trafod tanbaid ymysg beirdd a chrefyddwyr ein gwlad yn ystod y misoedd diwethaf hyn. Cafodd golygydd Radio Cymru, Aled Glynne Davies, a'r BBC yn gyffredinol, eu beirniadu'n hallt, gan rai, am ddwyn nifer o newidiadau arloesol i'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu ar ein cyfer.

Cafodd llawer ei ddweud am y Seisnigeiddio honedig a thrafodwyd y cyfan fel pe byddai hanfod ein gwareiddiad yn cael ei fradychu. Credaf i'r beirniadu hwn fod yn annheg ac yn fwy na hynny, yn gwbl ddinistriol i'r broses o ail-greu sy'n gorwedd wrth hanfod ffyniant a pharhad pob gwareiddiad iach. Fel Cristion, mi dybiwn fod y beirniadu hwn yn bwrw cysgod ar fwrlwm gwaith yr Ysbryd Glân, sydd o'r hyn a welir yn yr ysgrythurau, yn gyson yn creu o'r newydd ac yn ymwrthod â r dyhead ar ran rai i biclo pethau mewn potiau jam diwylliannol a chrefyddol.

Fel Cymry Cymraeg, credaf y dylid ymfalchïo yn y gwasanaeth rhagorol a pherthnasol sy'n cael ei gynnig i ni gan Radio Cymru y dyddiau hyn. Y mae'r tîm sy'n cynnwys cyflwynwyr fel Jonsi, Beks, Dafydd Du, Chris Needs a Geraint Lloyd wedi llwyddo nid yn unig i addasu darpariaeth ar gyfer byd cystadleuol iawn, ond yn bwysicach na hynny, wedi llwyddo i ddod â r gwrandawyr yn agosach at yr hyn sydd gan y Gymraeg i'w gynnig.

Wna'i byth anghofio geiriau un cyfaill mewn oedran sylweddol a oedd wedi crwydro gyda'i deulu i Parti Ponty. Yn amlwg iawn, roedd yn un o gymeriadau naturiol y cymoedd. Wrth gerdded i'r un cyfeiriad ar ddechrau'r gweithgareddau clywais y geiriau anfarwol; this bloody Welsh thing is good.

Wrth giwio am chips ar derfyn dydd yn Parti Ponty, hyfryd oedd clywed mam o Lantrisant yn dweud; It's been a great day, and it's nice for us parents to belong to the kids' world. Welsh is fun..

Erbyn hyn, y mae un plentyn ym mhob pedwar yn y cymoedd yn cael ei addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Y mae'r athrawon sy'n dysgu yn yr ysgolion hyn yn rhyfeddol. Maent yn llwyddo i gyflawni'r gwyrthiol sef creu diwylliant newydd. Yn 1991, roedd 38,000 o blant oedran ysgol gynradd yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn hyn, ceir dros 50,000.

Aeth Radio Cymru ati i gyfarfod a'r diwylliant Cymraeg newydd sy'n codi yn y tir. Nid yn annisgwyl efallai, Radio Cymru yw'r orsaf fwyaf poblogaidd gan siaradwyr Cymraeg. Y mae cyfraniad y cyfrwng yn aruthrol. Rhwng dau a phump o'r gloch y prynhawn y mae 59,000 yn gwrando ar y gwasanaeth rhywbryd yn ystod yr wythnos. Yn anhygoel o'r bron, yng Nghymru, mae cynulleidfa Radio Cymru yn uwch na chyfanswm gwrandawyr Radio 3 a Radio 5 Live gyda'i gilydd.

Yr hyn ddylid sylwi arno'n arbennig yw'r cynnydd sylweddol a gafwyd yn ystod misoedd y cwyno mawr. Erbyn hyn, mae 105,000 yn gwrando ar Radio Cymru rhywbryd rhwng chwech a naw o'r gloch y bore yn ystod yr wythnos - 8,000 yn fwy na llynedd a 10,000 yn fwy nag yn 1995. Y mae'r cynnydd hwn yn rhyfeddol yng nghyswllt un o ieithoedd lleiafrifol Ewrop ar drothwy mileniwm newydd.

Y mae'r ystadegau hyn yn dysgu gwersi i ni'r Cymry am yr angen i fentro a bod yn hyderus. Diolch i'r drefn, gellir cysylltu'r Gymraeg a rhywbeth byw a ffres. Ond ceir her i'r eglwysi.

Disgwylir i'r eglwysi genhadu yn yr un byd a'r Parchedig Pop, Jonsi a Beks. Yr un yw'r gynulleidfa. Y mae'r wers sylfaenol yn syml. Os oes modd i Radio Cymru dyfu a llwyddo yn y Gymru gyfoes, y mae modd i'r eglwysi wneud yr un modd.

Er gofid, nid ydym yn profi yr un tyfiant ac fe'n gwelir yn methu yn affwysol i gyfathrebu a'r un byd.

Yn y rhaglen Gwneud Pen Fi Mewn daeth sêr Pam Fi Duw i ganmol ardal Pontypridd. Do, fe gafwyd rhai o gymeriadau Ysgol Gyfun Glynrhedyn i wneud eu pethau: Sharon, Spikey a Billy Fat. Gan Spikey cafwyd y geiriau mwyaf treiddgar: Fi ddim yn deall why its taken pobol mor hir i ffeindio'r lle myn. Its got everything ti eisiau mewn life ti!

Y mae gan ein traddodiadau Cristnogol Cymraeg rywbeth i'w gynnig i fywyd Spikey a'i debyg. Ond, er galar, ceir gagendor mawr rhwng byd Spikey a diwylliant ein heglwysi. Tybed, a ddaeth yr amser i ni gydnabod bod angen i ni fynd ati i siarad mewn ffordd gwbl newydd a'r byd sydd o'n cwmpas? Fe'n gorfodir i gydnabod mai rhywbeth a roddwyd ar gyfer ein byd yn ei gyfanrwydd yw'r Ffydd Gristnogol.

Hyd y gwelaf, cafwyd polisi pendant gan Radio Cymru i ddwyn y cyfrwng yn agosach at y gynulleidfa. Y mae gan Jonsi a'r criw y ddawn ryfeddaf i gysylltu â byd nifer helaeth o Gymry Cymraeg go iawn; nid y math o Gymry safonol sy'n byw ym mhennau beirdd ac academwyr. Llwyddwyd i ryddhau rhan o'n diwylliant Cymraeg rhag math o ffasgaeth ddiwylliannol sy'n rhagdybio bod gan rai, fel beirdd er enghraifft, math o hawl ar yr iaith Gymraeg: yr hawl i'w diffinio a'r hawl i'w diogelu.

Ym myd darlledu cafwyd datganiad clir mai rhywbeth sy'n perthyn i'r genedl gyfan yw'r iaith Gymraeg. Gall Spikey, ei fam a'i dad a Mrs Jones, Llanrug ei hawlio yn ogystal ân beirdd.

Y dasg enfawr sy'n wynebu'r eglwysi Cymraeg yw canfod cyfryngau cyfoes sydd yn eu galluogi i gyflwyno'r Ffydd mewn modd sy'n cyffwrdd â bywydau y Cymry Cymraeg. Efallai, y dylem ganfod Jonsi a Beks Cristnogol sydd âr ddawn i gyflwyno'r Ffydd mewn modd perthnasol. Yn fwy na dim, y mae'n rhaid creu cymdeithas Gristnogol sy'n gynnes ac yn ffres. Cymdeithas sydd wedi ei rhyddhau o gadwynau diwylliant arbennig sy'n hawlio ein holl egni a'n hadnoddau.

Cath Williams 'Cenhadu Ymysg Myfyrwyr'

Amcangyfrifir bod 10% o'r chwarter miliwn poblogaeth Caerdydd yn fyfyrwyr a staff y brifysgol a'r sefydliadau addysg uwch neu'n bobl ifainc sydd wedi symud i fyd gwaith yn y ddinas. O'r nifer hwn, mae oddeutu 1000 o Gymry Cymraeg rhwng 18 a 22 oed ynghyd â nifer helaeth sy'n ymgymryd a gwaith ymchwil.

Menter newydd i fwrdd Cenhadaeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru fu gosod Caplan llawn-amser i weithio ymysg myfyrwyr addysg uwch, a phobl ifainc sydd wedi symud i weithio yng Nghaerdydd, ac i gydweithio ag eglwysi lleol a chaplaniaid eraill yn y brifddinas, gyda phwyslais arbennig ar weithio ymysg myfyrwyr a phobl ifainc Cymraeg eu hiaith.

Fy mraint a'm cyfrifoldeb i, ganol Medi 1997, oedd ymgymryd a'r swydd. Fel yr unig gaplan dwyieithog a'r unig ferch yn fforwm caplaniaid Caerdydd, cefais groeso cynnes iawn a digon o waith cyfieithu gan y chwe chaplan arall sy'n cynrychioli'r Bedyddwyr, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, y Methodistiaid, Eglwys Rhufain a'r Eglwys yng Nghymru.

Daethum i'r gwaith yn ystod cyfnod prysur ymrestru a gwelais yn fuan iawn bod digon i'w wneud. Defnyddiwyd Ffair y Glas-fyfyrwyr a'r cyfnod ymrestru i rannu gwybodaeth am wasanaeth y caplaniaid, a phleser fu estyn croeso i lu o fyfyrwyr yn ymweld â r ddau Gaplandy ym Mhlas y Parc i gynnig sgwrs neu glust i wrando a byrbryd canol dydd iddynt. Gwahoddwyd y myfyrwyr i amrywiol gymdeithasau Cristnogol fel MethSoc, AngSoc a CathSoc, sydd wedi eu sefydlu yng Nghaerdydd ers hanner can mlynedd neu fwy. Cynigia'r cymdeithasau hyn raglenni amrywiol o weithgareddau, cyfleoedd i gymdeithasu a thrafod pob math o bynciau, ac yn bwysig iawn, cefnogaeth ymarferol.

Cawsom nosweithiau diddorol o drafodaethau ar faterion cyfoes o bwys. Cynhaliwyd dau gwrs Alffa ar gyfer newydd-ddyfodiaid i'r Ffydd a chroesawyd siaradwyr o fri i annerch y myfyrwyr, fel Bruce Kent a'r aelod seneddol, Ann Widdicombe; aethom allan i Ganolfan Techniquest, Goleulong Caerdydd ac i gael tro ar rew sglefrio!

Gyda diwedd tymor yr Hydref, daeth y Nadolig i'n hymwybyddiaeth yn gynharach nac arfer. Aethom i ganu carolau ar y Bandstand enwog Caerdydd ac i gerdded strydoedd ardal Cathays. Trosglwyddwyd yr elw i C.A.S.H. (Cardiff Action for the Single Homeless). Hon oedd yr elusen i dderbyn yr arian a godwyd dros gyfnod y Garawys drwy gynnig prydau syml o fara a chaws unwaith yr wythnos. Ynghyd â hyn, profiad wythnosol arbennig yw rhannu yng ngwasanaethau Cymun MethSoc am wyth o'r gloch ar fore Mercher a'r brecwast a'r sgwrs sy'n dilyn.

Fy mreuddwyd o'r cychwyn bron oedd gweld sefydlu cymdeithas gyffelyb drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg gyda phwyslais ecwmenaidd. Bûm yn ymweld â myfyrwyr mewn neuaddau a lletyau i drafod sefydlu cymdeithas ecwmenaidd i'r Cymry Cymraeg.

Ynghyd ag ambell noson allan i fwynhau cwmni ein gilydd a thrafod posibiliadau, cawsom noson o drafod bywiog a chymdeithasu gydag aelodau eglwysig lleol dan arweiniad y Parchedig Dafydd Andrew Jones. Y pwnc oedd I'r Dyfodol Gyda'n Gilydd". Gyda hyn mewn golwg, cawsom gyfarfod cynllunio pryd y penderfynwyd sefydlu cangen Gymraeg o Gymdeithas Gristnogol y Myfyrwyr (Student Christian Movement ) ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Bum yn ymweld i wrando ar brofiadau a theimladau bobl ifainc wedi iddynt symud o gartref. Er mor gyffrous yw dechrau gyrfa Coleg y mae hiraeth am deulu a chysuron cartref yn hollol naturiol a rhyfeddol yw'r gwerthfawrogiad am ambell gymwynas. Ni fu eglwysi lleol yn brin eu haelioni a gwahoddwyd sawl myfyriwr i gartref yng Nghaerdydd i fwynhau awyrgylch y teulu. Nefoedd i mi meddai un oedd derbyn croeso mewn oedfa yn y bore, mwynhau cinio dydd Sul, ac eistedd ar gadair gyfforddus i wylio'r teledu.

Rhan o'r patrwm gwaith yw ymweld ag Adrannau a Sefydliadau deirgwaith yr wythnos i sgwrsio a myfyrwyr dros bryd bwyd. Pleser arbennig yn ystod fy ymweliadau yw rhoi cyfle i fyfyrwyr yn dysgu'r iaith i'w hymarfer ar lafar mewn awyrgylch llai ffurfiol na dosbarth. Cefais gyfle i ymweld â rhai o'r dosbarthiadau ac i egluro peth ar fy ngwaith.

Rydym yn cyfarfod fel Fforwm Caplaniaid yn fisol i rannu gwybodaeth a chynllunio ein patrwm cydweithredol. Cytunwyd i weithredu polisi dwyieithog ar gyfer pob agwedd o'n cyhoeddusrwydd ac i gynnal gwasanaeth Cymun dwyieithog wythnosol gan ddefnyddio'r ffurf Cyfamodol ar ddau gampus, sef Cyncoed a Llandaf.

Cefais gefnogaeth gadarn gan fy nghyd-gaplaniaid, offeiriaid a gweinidogion lleol a'r pwyllgor lleol sy'n hybu'r gwaith. Bu Pwyllgor Llywio'r Caplaniaethau ac eraill yn brysur yn gwireddu breuddwyd, sef sefydlu Canolfan Gristnogol Ecwmenaidd yn y ddinas. Gyda chefnogaeth yr enwadau gobeithiwn brynu adeiladau yn Ffordd y Gogledd a'u haddasu er mwyn creu canolfan i ysgogi addoliad ac ymwybyddiaeth o'r Ffydd, cyfleoedd i hybu cyfeillgarwch rhwng myfyrwyr o wahanol wledydd a diwylliannau, adnoddau astudio i fyfyrwyr, swyddfa i'r caplaniaid, a man canolog i droi i mewn iddo i dderbyn cyngor a gofal bugeiliol.

Bydd yno Gapel ac ystafelloedd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol a chwe ystafell breswyl ac adnoddau addas ar gyfer myfyrwyr. Trwy gynnig amodau preswyl, gobeithiwn ymateb i anghenion cynyddol Caerdydd am letyau, a chreu cymuned fechan o fyfyrwyr, yn barod i gynnig cefnogaeth a chyfeillgarwch i'w gilydd ac i fyfyrwyr eraill y ddinas.

Ni chyfyngir y defnydd a wneir o'r adeiladau i fyfyrwyr yn unig a rhan bwysig o'r gwaith fydd annog a chroesawu'r gymuned ehangach, yn arbennig yr eglwysi lleol, i ddefnyddio'r adeiladau. Trwy hyn, gobeithir codi pontydd rhwng eglwysi lleol a myfyrwyr, a chadarnhau'r berthynas gynnes rhwng yr eglwysi a'r caplaniaid yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Wrth ddirwyn i ben, hoffwn wneud apêl eang am gymorth eglwysi Cymru, o bob enwad: ni allaf bwysleisio gormod ar bwysigrwydd cysylltu â myfyrwyr yn ystod cyfnod cychwynnol y flwyddyn academaidd. Cysylltwch a ni nid yn unig parthed y rhai sydd ar gychwyn gyrfa golegol, ond hefyd y bobl ifainc sydd wedi symud yn eu hail flwyddyn o neuaddau preswyl i letyau. Mae miloedd o fyfyrwyr yn lletya yma yng Nghaerdydd mewn cannoedd o dai, ar wasgar drwy'r ddinas, a byddai cael gwybodaeth am eu symudiadau, gyda'u caniatâd, o werth mawr i'n galluogi i sicrhau croeso cynnes ac agored iddynt.

Gwenda Thompson 'Comisiwn yr Eglwysi ar Fyfyrwyr Tramor'

Y mae'n bleser gennyf gyflwyno i ddarllenwyr Ewch ychydig ynglþn â gwaith Comisiwn yr Eglwysi dros Fyfyrwyr Tramor - The Churches Commission on Overseas Students. Rydwyf yn cynrychioli Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ac ar hyn o bryd, yn Gadeirydd iddo.

Flynyddoedd yn ôl bûm yn fyfyriwr tramor fy hunain, wedi gadael pentref bach yng Nghwm Rhondda Fach a mynd i Baris, lle gefais y fraint o fod yn fyfyrwraig yn y Sorbonne. Y mae gennyf brofiad felly o'r anawsterau y mae myfyrwyr tramor yn ei wynebu pan ddônt i Brydain Fawr - gwahaniaeth iaith a diwylliant, gwahaniaeth awyrgylch (bywyd dinas yn lle bywyd cefn gwlad efallai), unigrwydd, hiraeth am eu teuluoedd, ac os ydynt yn groenddu - rhagfarn hiliol - anawsterau a all leihau yn sylweddol y lles i'r meddwl ac i'r bersonoliaeth a all ddod trwy fod yma.

Gwaith pennaf y Comisiwn - a ddechreuwyd yn 1975, o dan nawdd Cyngor Eglwysi Prydain Fawr ac Iwerddon - yw i addysgu'r eglwysi am anghenion y myfyrwyr tramor, a chreu fforwm lle gall y sawl sy'n gweithio yn y maes, fel caplaniaid colegau, rannu gwybodaeth a syniadau, a thrafod problemau. Rydym yn cydweithio â r Swyddfa Dramor i drefnu ysgoloriaethau; y mae gennym Gronfa Caledi lwyddiannus iawn a all roi cymorth ariannol yn ôl yr angen, ac rydym yn chwarae rhan flaenllaw mewn rhwydwaith o sefydliadau eglwysig a secwlar eraill. Comisiwn yr eglwysi yw e - ac apeliwn yn daer i bob enwad ein cynnal yn y gwaith trwy dalu tanysgrifiad i'r Comisiwn ac anfon cynrychiolwyr i'n cyfarfodydd.

Ond, beth all aelodau unigol yr eglwysi ei wneud? Beth am gynnig croeso teuluol? Neu drefnu dosbarth dysgu Saesneg, ac yn arbennig ar gyfer y myfyrwyr? Neu drefnu nosweithiau rhyngwladol, neu seiadau trafod rhwng pobl o grefyddau gwahanol? Gall cyfnewidiadau o'r fath ehangu gorwelion a chyfoethogi ein bywyd ni, dinasyddio Prydain Fawr. Ar ôl dychwelyd i'w gwledydd, y mae rhai o'r myfyrwyr hyn yn codi i fod yn arweinwyr yn eu gwledydd - ac mae'n bwysig eu bod yn dychwelyd gydag argraff ffafriol o'r driniaeth a gawsant yma. Ond y mae gennym ni, aelodau'r Comisiwn, gymhelliad arall, ac uwch - gwnawn y cyfan o'r gwaith yn enw'r hwn a ddywedodd: Bum yn ddieithr, a chymerasoch fi i'ch cartref...yn gymaint ag i chwi ei wneud i un o'r rhain, fy mrodyr, i mi y gwnaethoch.

A wnewch chi ein helpu yn y gwaith pwysig hwn?

Manylion pellach gan: Churches Commission on Overseas Students, 1 Stockwell Green, London, SW9 9HP. Ffon 071-737 1101.

Geraint Tudur 'Cofio Dyddiau Bala-Bang'

Bu cyfnod pan yr oedd mynd ar weithgarwch Cristnogol yng ngholeg Prifysgol Bangor. Bydd llawer tebyg i mi, a fu'n astudio yma'n y saithdegau, yn cofio'r nosweithiau Sul pryd y byddai degau o fyfyrwyr yn gwthio i mewn i ystafell fwyta Coleg Bala-Bangor i glywed amrywiol siaradwyr yn annerch ac i drafod a dadlau unwaith yr oedd y thema am y noson wedi ei hagor. Beth yn union ddigwyddodd yn y cyfnod wedi i ni adael, ni wn, ond pan ddychwelais ym 1994 buan y deallais nad oedd erbyn hynny unrhyw weithgarwch Cristnogol yn cael ei gynnal gan y myfyrwyr.

Dwy flynedd yn ddiweddarach mynegwyd dymuniad gan un o'r myfyrwyr i weld cyfarfod yn cael ei gynnal, a phenderfynodd rhai o staff yr Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol roi eu cefnogaeth i'r ymdrech. Trwy garedigrwydd nifer o eglwysi lleol a chronfa genhadol Annibynwyr Llþn ac Eifionydd, llwyddwyd i godi arian er mwyn talu treuliau'r rhai fyddai'n dod at y myfyrwyr i siarad, ac wedi trefnu cyfres o gyfarfodydd oedd eto i'w cynnal ar nos Sul, lansiwyd y fenter yn y Coleg Gwyn, canolfan y Bedyddwyr ym Mangor, yn nhymor yr Hydref 1996.

Gwahoddwyd amrywiaeth eang o siaradwyr oedd yn cynnwys rhai o staff y Brifysgol, gweinidogion, aelodau seneddol a nifer o wynebau tra adnabyddus yn y Gymru Gymraeg. Er hynny nifer fechan o fyfyrwyr a ymatebodd i'r posteri a'r gwahoddiadau i fynychu'r cyfarfodydd. Yn naturiol ddigon, yr oedd hynny'n gryn siom ar y dechrau, ond pan sylweddolwyd bod ymhlith y rhai oedd yn bresennol ysbryd penderfynol ac awydd i ddyfalbarhau, penderfynwyd na fyddai diffyg diddordeb y rhelyw o'r myfyrwyr yn cael torri calonnau y rhai oedd yn dod at ei gilydd. Yr oedd cytundeb cyffredinol y byddai'r cyfarfodydd yn parhau o leiaf hyd ddiwedd y flwyddyn academaidd, doed a ddelo. Ac felly y bu. Wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn gwelwn mai gosod sylfaen a wnaethpwyd yn 1997-98, ac wrth i ni baratoi ar gyfer blwyddyn academaidd newydd a dyfodiad to arall o fyfyrwyr Cymraeg i'r coleg yma, y gobaith yw y gwelir adeiladu ar y sylfaen hon ym 1998-99. Mae'n bosibl, o gofio nodweddion crefyddol a chymdeithasol y cyfnod presennol, na ddylid fod wedi disgwyl gweld niferoedd mawrion yn dod i'r cyfarfodydd cyntaf hyn, ond y gobaith yw y gellir ennyn diddordeb llawer mwy wrth i ni gynllunio ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

Gwyddom fod degau, os nad cannoedd, o fyfyrwyr y saithdegau yn dal i gofio gyda gwen eu hwynebau am y gwleddoedd a gafwyd ar nosweithiau Sul yn ffreutur 'Bala-Bang'. Nid gwleddoedd i lenwi stumogau oedd y rheini, ond i gyffroi meddyliau a diwallu eneidiau. Ni allwn ond gofyn i'r rhai fu'n rhan o'r cyffro a fu, ac sy'n darllen y geiriau hyn, i gofio yn eu gweddEFau am y genhedlaeth bresennol o fyfyrwyr. A rhag ofn y bydd unrhyw un sy'n dod i'r coleg ym Mangor yn dymuno mwy o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd, y person i anfon gair ato yw, Ysgrifennydd y Cyfarfodydd Nos Sul, Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Cymru, Bangor. LL57 2DG.

Byddai'n dda clywed gennych - felly, anfonwch air!

Aled Edwards 'Y Cool Cymry'

Ar ddechrau' r Uwch gynhadledd Ewropeaidd yma yng Nghaerdydd cafwyd noson i'w chofio. Na, nid noson draddodiadol Gymreig y Bryn Terfel absennol a'r 'taffiosa' hþn, ond noson y Stereophonics. Daeth miloedd o bobl ifainc i' r castell i wrando ar y 'cool Cymry' yn mynd drwy eu pethau yn 'Cwmaman Feel } the Noize'. Ar ddiwedd y noson, gwelwyd baner enfawr y ddraig goch ar y llwyfan a chlywyd y dorf yn bloeddio "Wales, Wales, Wales". Tybed, beth fyddai Llywelyn Bren ac Ifor Bach yn ei ddweud pe bydda nhw'n gweld ein bod ni o'r diwedd wedi meddiannu'r castell?

Y mae Bae Caerdydd yn llawn o faneri Cymreig sy'n chwifio'n gadarn yn y gwynt. Y mae'r 'cool Cymry' ar waith yno hefyd. Ar ddiwedd yr Uwch gynhadledd gwahoddwyd 'cyfryngies' Ewrop i barti mawr yn y Bae. Yr oedd cost y parti hwn yn enfawr, ond yn Ol pob sôn, yr oedd pob ceiniog yn fuddsoddiad da. Gosododd y 'cool Cymry' eu stamp ar ddealltwriaeth newyddiadurwyr Ewrop. Rhwygwyd tudalen gyfan o'r Encyclopaedia Britannica o'r clawr, ac erbyn hyn, ymysg pobl fwyaf grymus Ewrop, ceir dealltwriaeth amgenach na; 'for Wales see England'.

Wrth geisio buddsoddiad a swyddi y mae delwedd gwlad yn bwysig. Yn ddiweddar, cafwyd dadansoddiad gofalus gan y Sefydliad Materion Cymreig yn dadlau i ni goll miliynau mewn buddsoddiadau oherwydd rhagfarnau twp bobl Llundain ynglþn â Chymru. Ceir llu o ystrydebau amherthnasol.

Wedi miri' r Uwch gynhadledd, gwelais yr angen i fynd am dro i'r Halfway ym Mhontcanna. Yno, yn ôl gwawd y Dr Tim Williams, y mae'r 'Pontcanna set' yn cyfarfod. Wrth i mi sipian peint o 'diet coke' a gweld Cymru yn chwarae yn eithaf da yn erbyn y 'Natal Sharks', clywais synau sgyrsiau y 'cyfryngies' yn y cefndir. Ymddiheurodd newyddiadurwr am gamsillafu enw un o uchel swyddogion un o'n hannwyl 'gwangos'. Beth bynnag ddywedwyd yn yr adroddiad, yr oedd y ddau yn hynod o ddedwydd hefo'i gilydd wrth y bar.

Ymysg y rhain, ceir galwad aruthrol am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Y } mae'r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol iddynt. Dichon i ambell un weld yr angen i ennill yr hyn a gollwyd mewn diwylliant, ond grym a delwedd sy'n cyfrif i'r 'cool Cymry'. Y mae'r Gymraeg fel tancer yn troi. Yn raddol ac yn araf y mae hi'n osgoi ei diwedd. Wedi iddi droi, fe fydd yn iaith wahanol: ail iaith i'r 'cool Cymry' trefol a newydd.

I lawr y lôn o'r 'Halfway' ceir un o adeiladau pwysicaf Cymru ar hyn o bryd: talwrn y Transport House, canolfan y Blaid Lafur Gymreig. Yn ystod y flwyddyn nesaf fe ddaw'r ceiliogod i frwydro: Ron, Rhodri a Wayne. Cofier, nid ymysg y rhain y bydd y frwydr fawr. Yn y gynulleidfa, ceir ambell i Lew llipa, Densil y deinosor a llu o geiliogod eilradd nad ydynt am weld ambell iâr yn dangos ei phlu. Ceir brwydr enfawr yma rhwng yr 'hen Gymry' a'r 'cool Cymry. Cofier, y mae'r 'cool Cymry' ar waith ym mhob plaid wleidyddol. Addasu delwedd ac ennill grym sy'n cyfrif. Pethau amherthnasol yw egwyddor ac ystyr.

Byddai gwrwaid ôl-foderniaeth; Jacques Derrida, Michael Foucault a Jean Baudrillard wrth eu boddau yn gwrando ar y sgyrsiau a geir o gwmpas bar yr 'Halfway'. Ceir ddigonedd o eiriau a llu o ddelweddau, ond y mae ystyr yn } absennol. Y mae Alister McGrath yn egluro ôl-foderniaeth fel hyn: 'Postmodernism represents a situation in which the signifier (or signifying) has replaced the signified as the focus of orientation and value'.

Bellach, nid rhywbeth a fu yw'r hyn a elwir yn Gymru, ond rhywbeth sy'n cael ei greu o'r newydd a'i naddu yn y presennol. Cymdeithas ôl-fodernaidd sydd i'w chanfod yng Nghymru heddiw, o Fôn i Fynwy. Y mae hen ystrydebau ein hunan adnabyddiaeth yn amherthnasol ac yn ddiystyr. Y mae'r 'cool Cymry', y 'signifiers' yn ôdadansoddiad McGrath, wedi cymryd lle y 'signified', ystrydebau Cymru. Mentrwn ddadlau nad yw'r dadansoddiad hwn yn newydd i ni'r Cymry. Onid ydym wedi llwyddo i gyrraedd y trydydd mileniwm drwy ail-greu ein hunain yn gyson?

Os ydyw'r dadansoddiad hwn yn gywir, ceir llu o oblygiadau yn nhermau cenhadaeth yr Eglwys ymhlith Cymry Cymraeg cyfoes. Ar y cyfan, y mae'r 'cool Cymry' yn canfod rhagdybiaethau y diwylliant crefyddol Cymraeg yn gwbl annerbyniol a diystyr. Nid ydynt hyd yn oed yn gweddu ein traddodiad ag ymateb wrth-Gristnogol. Cymdeithas ôl Gristnogol sydd i'w chanfod ymhlith y 'cool Cymry'. Erbyn hyn, nid yw'n traddodiadau crefyddol Cymraeg hyd yn oed yn hawlio nac yn haeddu gwrthwynebiad.

Aeth Paul de Man, un o ôl-fodernwyr amlycaf America, i feirniadu'r rhai sy'n mynnu dehongliad neu ddiffiniad ar lenyddiaeth. Yn ôl ei ddadansoddiad, ceir peth ffasgaeth mewn 'ystyr'. Ceir awgrym bod gan rhywun yr awdurdod i ddiffinio sut y dylid deall darn o lenyddiaeth.

Onid melltith pennaf y traddodiad Cristnogol Cymraeg yw ein bod yn mynnu diffinio'n traddodiad yn unol a'n canllawiau ni a'n math ni o bobl? Yn y traddodiad Cristnogol Cymraeg ceir llu o furiau haearnaidd sy'n diffinio traddodiad ac yn gosod ystyr ar yr hyn a wnawn: adeiladau, cerddoriaeth, arferion a chysylltiadau. Tu hwnt i'r clwb dethol sy'n gwneud y ddiffinio, nodweddir y traddodiad Cristnogol Cymraeg gan rwymedigaeth i'r 'signified' yn hytrach na'r 'signifier'.

Y gofid yw hyn. Y mae'n traddodiad ni ar y cyfan yn difa'r broses o ail-greu sy'n gorwedd wrth hanfod parhad. Y mae hefyd yn ein gwneud yn gwbl amherthnasol i'r byd sy'n cael ei greu o'n cwmpas .

Ond beth am yr Ysbryd Glân a'i waith? Dywed Graham Cray mai rhagflas o'r dyfodol yw'r Ysbryd Glân a cheir her amserol i'r rhai sy'n gwrthod gweld yr angen i genhadu ymysg y 'Cool Cymry' a'u tebyg: 'God has got to convert the missionaries before he can convert the ones whom they are to reach..We are delighted when anyone becomes a Christian but we expect them to become like us. The thought that people can become Christians and be so unlike us is very threatening.' Ceir gagendor enfawr rhwng 'taffiosa' y byd Cristnogol Cymraeg a'r 'Cool Cymry'. Ceir gwirionedd eglur, mae pethau'r 'taffiosa' crefyddol yn anathema i'r 'Cool Cymry' newydd.

Ceir ysfa ar ran y byd crefyddol Cymraeg i ddarparu noddfa ar gyfer y rhai sy'n methu dod i delerau a'r byd cyfoes hwn. Yn hyn o beth, ceir rhybudd gan Graham Cray i'n heglwysi: 'We do have the opportunity to minister to those bewildered by change, but if we become just the cities of refuge for those who cannot cope with the inevitable then we will be marginalised for the the purposes of God in our culture within a generation'.

Erbyn hyn, mewn sawl man, onid yw'r traddodiad Cristnogol Cymreig yn ddim byd amgenach na noddfa i'r rhai sy'n methu ymdopi a byd y 'Cool Cymry'?

Yn ôl i'r dudalen gyntaf