Eglwys Dewi Sant Caerdydd
Ficer: Y Parchedig Aled Edwards B.A., Hafod-lon, 51 Heath Park Avenue, Caerdydd, CF4 3RF. Ffôn 01222) 751418.
Cylchgrawn
y Plwyf - Tachwedd 1998
Gwasanaethau mis Tachwedd
Sul 1 Tachwedd Trindod 21 Gðyl yr Holl Saint
8.00 a.m. Cymun Bendigaid
Gwasanaethir gan: Y ficer Darllenydd: W J Jones
10.30 a.m. Cymun ar Gân
Gwasanaethir gan: Y ficer Darllenydd: Judith Jones
6.00 p.m. Gosber ar thema:Y Saint
Gwasanaethir gan: Y ficer Darllenydd: Morfudd Stone Eccles 4 : 1 - 15 Datguddiad 7: 13 - diwedd
Sul 8 Tachwedd Trindod 22 Sul y Cofio
8.00 a.m. Cymun Bendigaid
Gwasanaethir gan: Y ficer Darllenydd: D Rhys Jones
10.30 a.m. Boreol Weddi
Gwasanaethir gan: Y ficer Darllenydd: Margaret Jones Darlleniadau Sul y Cofio) Micah 4: 1 5 b) Rhuf. 8: 31 - diwedd
6.00 p.m. Cymun Bendigaid
Gwasanaethir gan: Ceri Davies, Coleg Sant Mihangel Darllenydd: John Watkins
Sul 15 Tachwedd Trindod 23
8.00 a.m. Cymun Bendigaid
Gwasanaethir gan: Y ficer Darllenydd: Frances Davies
10.30 a.m. Cymun Bendigaid
Gwasanaethir gan: Y ficer Darllenydd: Judith Poulson
6.00 p.m. Gosber
Gwasanaethir gan: Y ficer Darllenydd: Delyth Davies Eseciel. 1: 3 14, 22 14 diwedd 2 Corinthiaid, 3
Sul 22 Tachwedd, Sul o flaen Adfent
8.00 a.m. Cymun Bendigaid
Gwasanaethir gan: Y ficer Darllenydd: Margaret Gardner
10.30 a.m. Cymun Bendigaid Teuluol
Gwasanaethir gan y ficer
6.00 Gosber
Gwasanaethir gan: Y ficer Darllenydd: J Cyril Hughes Malachi 3: 16 4, diwedd Hebreaid 11, 17 12, 2
Sul 29 Tach., Sul Cyntaf yn Adfent
8.00 a.m. Cymun Bendigaid
Darllenydd: Dilys Hicks Eseia 2: 1 5 Salm 122 Rhuf. 13: 11 14 Mathew 24: 36 - 44 Gwasanaethir gan: Y ficer
10.30 a.m. Boreol Weddi
Gwasanaethir gan: Y ficer Salm 9: 1 - 8 Darllenydd: Wyn Mears Eseia 52: 1 12 Mathew 24: 15 28
6.00 Cymun Bendigaid
Gwasanaethir gan: Y ficer Darllenydd: Rosemary Davies Eseia 2: 1 5 Salm 122 Rhufeiniaid 13: 11 14 Mathew 24: 36 - 44
Yr ysgol Sul
Ni fydd ysgol Sul ar 22 Tachwedd pan fydd cymun teuluol. Rydym yn dal i apelio am gymorth athrawon a rhywun i ddysgu caneuon ir plant.
Gwneud cyfamod
Mae arian fel y tlodion) gyda ni bob amser, ac maer pwysau ariannol ar ein heglwys yn drwm. Gan mai cynulleidfa fechan ydym, rhaid edrych ar bob ffordd o ychwanegu at ein hincwm. Mae John Watkins yn ein hatgoffa am un ffordd o wneud hynny. Dyma sydd ganddo iw ddweud:
CYFAMODI
Maen bwysig i bob aelod syn talu treth incwm gyfamodi ei gyfraniadau ir eglwys. Dyma pam. Maer eglwys yn cael ad-daliad treth incwm o 20% o gyfanswm eich cyfraniadau sydd wedi cael eich caniatâd mewn cyfamod. Dyma ddwy enghraifft ichi o sut maer drefn yn gweithio:
Cyfraniadaur flwyddyn £200 Ad-daliad treth incwm 20% £ 40 Cyfanswm ir eglwys £240 Cyfraniadaur flwyddyn £500 Ad-daliad treth incwm 20% £100 Cyfanswm ir eglwys £600
Os nad ydych yn cyfamodi, cofiwch mair eglwys sydd ar ei cholled. Dydych chi ddim yn talu mwy o arian trwy gyfamodi ond mae cyfanswm eich cyfraniad blynyddol yn ychwanegu 20% trwy ad-daliad treth ir eglwys. Os nad ych chin cyfamodi ar hyn o bryd ac os carech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Mrs Erith Davies 01222 620349). Os ych chin cyfamodi eisoes, beth am godi eich cyfamod? Mae costaur eglwys yn codi trwyr amser ac mae pob punt yn help. Eto, cysylltwch â Mrs Erith Davies.
Gair at ddarllenwyr llithiau Cofiwch y bydd y drefn yn newid ychydig or Sul Cyntaf yn Adfent ymlaen.
Hafod Lon
Mae cartref ficer Dewi Sant, Hafod Lon, yn gyfarwydd i bob un ohonom, Ar gais y golygydd, mae Vincent Phillips yn rhoi hanes y ddarpariaeth a wnaeth aelodaur eglwys or cychwyn cyntaf i sicrhau cartref ir ficer ai deulu.
Yr eglwys Gymraeg gyntaf
Cysegrwyd Eglwys Dewi Sant, Gerddi Howard, yr eglwys Gymraeg gyntaf a godwyd ar gyfer eglwyswyr Cymraeg eu hiaith ar 21 Hydref 1891. Yr oedd yr eglwyswyr Cymraeg hynny wedi bod yn addoli yn eu hiaith eu hunain cyn hynny mewn amrywiol fannau yn y ddinas. Cewch hanes diddorol yr achos yn llyfr y Parchedig Roger Lee Brown, Irish Scorn, English Pride and the Welsh Tongue a gyhoeddwyd yn 1987. Yn 1891 yr oedd Eglwys Dewi Sant ym mhlwyf Eglwys yr Holl Saint gydar Parchedig Andrew Hyslop, ficer yr Holl Saint yn gofalu am y ddwy eglwys. Ond ar Ragfyr 8 1922 gwnaed Dewi Sant yn blwyf ar wahân.
Cartref ir ficer
Golygai hynny fod yn rhaid ir gynulleidfa ddarparu cartref ir ficer ac yn 15 Howard Gardens yr ymgartrefodd. Tþ braf, cadarn sydd ar ei draed o hyd. Cawn y Canon D T Griffiths, ficer yr eglwys yn diolch ir aelodau yn y Festri Basg 7 Ebrill 1923): for having provided him with such a nice house. Getting a house so near to the church was a very wise policy.
Yn 1935 penodwyd y Parchedig R M Rosser yn ficer yr eglwys. Yng nghyfarfod y Cyngor Plwyf Eglwysig CPE) ar gyfer 26 Chwefror 1935 cofnodir:that the rent of the Vicarage [Howard Gardens] be collected by the Church Wardens.
Ni fur ficer newydd ai deulu yn byw yn y tþ a ddarparwyd yn Howard Gardens. Dywedid ei fod braidd yn llaith ac maen amlwg ir ficer ei osod ar rent yr adeg yma a chofnodir bod peth helbul wedi bod ynglþn â chasglur rhent hwnnw.
Cawn gofnod am 15 Tachwedd 1930 yn nodi: The old Vicarage was sold for the sum of £750. Ond yr oedd rhaid cadwr arian hyn at ddibenion yr eglwys: The money according to the renting of the trust commissions had to be invested in some way or other as as to be a benefit to the church.
Yn fuan penderfynodd y CPE brynu eiddo âr arian am £875, oddi wrth un or aelodau sef Mr Caxton Davies, un o wþr blaenllaw Cwmni William Lewis, cwmni o argraffwyr y gorau yng Nghymru yn ôl rhai yn Heol Penarth. Nid ywr cwmni yn bod bellach.
Yr oedd Caxton Davies ei hun wedi prynur tþ ar Ebrill 21 1936. Nodar cofnod: [he] had given Dewi Sant Church a very good bargain.
Vicarage Fund
Ar hyd y blynyddoedd cyn prynu Hafod Lon darparwyd llety ir Parchedig R M Rosser ai deulu. Bellach gallent symud i dþ oedd yn eiddo ir eglwys unwaith eto. Dengys y cofnodion fod yr aelodau ers ei sefydlun blwyf annibynnol wedi darparu cartref iw ficer ac y maer cyfeiriadau at Vicarage Fund yn dyst fod neilltuo arian ir pwrpas hwn.
Yr oedd Hafod Lon o dan ofal Ymddiriedolwyr a benodwyd gan aelodaur eglwys ac yr oeddynt yn atebol hefyd ir Comisiynydd Elusennau am a weithredent. Mae trawsgludiant 30 Mawrth 1939 yn trosglwyddor tþ ir Ymddiriedolwyr hyn. Ar Chwefror 22 1974 ceir trawsgludiant o rydd-dal y tþ iddynt hefyd. Yn ymarferol yr oedd unrhyw waith atgyweiriol yn llawr Pwyllgor Adeiladau ac fe drafodid yr hyn a gymeradwyent yn y CPE gan mair Cyngor hwnnw a roddair hawl i wario arian ar yr adeilad. Gan fod y rhan fwyaf or Ymddiriedolwyr yn aelodau or CPE gwyddent am yr hyn y bwriedid ei gyflawni.
Trosglwyddor adeilad
Ym mis Mawrth 1996 rhoddwyd gwybod ir Ymddiriedolwyr fod y CPE am drosglwyddo Hafod Lon i Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru yn Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd. Golygai hynny y byddair corff hwnnwn mynd yn gyfrifol am yr holl waith atgyweirio. Golygai hefyd y byddair eglwys yn gallu manteisio ar y swm arbennig yn y cwota a neilltuid ar gyfer gofalaeth persondai. Hyd yma ni châi Eglwys Dewi Sant yr un gostyngiad yn ei chwota er ei bod yn berchen ar ei ficerdy ei hun.
Ar nos Iau 25 Ebrill 1996 gofynnodd yr Ymddiriedolwyr am gyfarfod ar y cyd âr CPE i sicrhau mai dyna oedd union ddymuniad y Cyngor ac i drafod oblygiadaur trosglwyddo.
Cyfrifoldeb y Bwrdd
Wedir cyfarfod hwnnw cytunodd yr Ymddiriedolwyr â dymuniad y Cyngor. Cafwyd prisiad swyddogol or tþ a throsglwyddo Hafod Lon i ofal Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru ar 7 Ionawr 1997. Bwrdd Persondai Esgobaeth Llandaf syn gweithredun ymarferol ar ran y Corff hwn ar Bwrdd syn gyfrifol am yr atgyweirio a wnaed ynon ddiweddar.
Yn ôl amodaur dogfennau trosglwyddo geill aelodau Eglwys Dewi Sant gael y tþ yn ôl iw gofal hwy ddydd a ddaw, pe dymunent hynny, ar ôl talur symiau priodol a nodir yn y gweithredoedd hyn.
Y cam olaf oedd penodir pum ymddiriedolwr newydd ar ran yr eglwys i arolygur hyn a wneir ir tþ o hyn ymlaen. Gwnaed hynny mewn gweithred dyddiedig 14 Mawrth 1997.
Cyngor Plwyf yr Eglwys
Cyfarfu Cyngor Plwyf yr Eglwys yn Hafod Lon ar 24 Medi 1998. Trafodwyd nifer o faterion diddorol ynddo ac ni ellir manylu arnyn nhw nes y bydd y Cyngor Plwyf wedi eu pasion ffurfiol yn ei gyfarfod nesaf ar 22 Hydref, cyn y bydd y rhifyn hwn wedi ymddangos. Edrychwn yn fras ar rai ohonyn nhw, gan eu gosod, er hwylustod, o dan benawdau.
Mae arian yn broblem
Eglurodd cadeirydd y Panel Cyllid, John Watkins y bydd angen llawer o arian yn y dyfodol i dalu am atgyweiriadau angenrheidiol i ffabrig yr eglwys. Soniodd am ffyrdd o wneud hynny. ac maen sôn am gyfamodi, yn y rhifyn hwn. Ond mae ffyrdd eraill
Y Loteri Genedlaethol
Soniodd John Watkins am y loteri genedlaethol, pwnc llosg i amryw. Yn ôl y sôn mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi wedi derbyn £500,000 gan y loteri genedlaethol ar gyfer trwsior organ ond gwyddom fod llawer yn edrych at y loteri hon fel hapchwarae neu fwrw coelbren, ac na ddylair Eglwys yn gyffredinol ystyried arian a ddaw o ffynhonnell or fath.
Raffl
Soniodd hefyd am bosibiliadau cynnal raffl ond edrychai rhai ar hyn eto fel hapchwarae ofer ac na ddylai unrhyw eglwys ystyried y fath ffordd o godi arian. Dywedodd y ficer ei fod ef or farn y dylair gwahanol aelodau ddangos eu cariad at eu gwaredwr trwy gyfrannu tua 5% ou hincwm yn uniongyrchol ir eglwys yn hytrach nai ddefnyddio ar gyfer raffl. Teimlai y byddai nifer o aelodaur eglwys yn cytuno ag ef yn hyn o beth. Er nad oedd pawb yn erbyn raffl, teimlai rhai eraill nad oedd yn ffordd hwylus o godi arian sut bynnag gan mair rhai oedd yn ceisio gwerthu tocynnau oedd yn eu prynu yn y diwedd. Mynegwyd hefyd na ddylid gadael i raffl ddwyn unrhyw deimlad drwg ir eglwys ac y dylai pawb fod yn unfrydol ynghylch unrhyw syniad. Maer Cyngor Plwyf i edrych yn ofalus ar hyn cyn mynd gam ymhellach ond byddain ddiddorol cael eich barn chi.
Codi tâl am ddefnyddior eglwys ar festri
Eglurwyd bod pobl yn defnyddior eglwys ar festri o bryd iw gilydd ar gyfer gwahanol achlysuron ond nad oes unrhyw system ynghylch codi tâl ac unrhyw raddfeydd yn bodoli.
Penderfynwyd gofyn ir panel cyllid lunio graddfeydd ir Cyngor Plwyf eu hystyried. Byddair rhain wrth law wedyn pan ddeuai rhywun i ofyn am gael benthyg yr adeiladau ar gyfer angladd neu briodas neu bwyllgor.
Maer adeilad yn broblem
Maen dda bod gennym adeilad mawr a hardd i addoli ynddo yng nghanol y ddinas. Yn anffodus, mae adeilad or fath yn costio llawer o arian iw gadwn ddiddos ai wresogi. Maen hyfryd gweld y coed oi gwmpas, ond nid yw mor hyfryd gweld eu dail yn cael eu chwythu ir landerau ar cafnau gan eu blocio ac achosi tyfiant a gadael i ddðr a lleithder fynd i ffabrig yr adeilad. Maen costio iw glanhau.
Sðn y gwynt yn chwythu
Maer gwynt yn chwythu lle y mynno, ond pan fydd yn chwythu dros eglwys Dewi Sant, maen rhy barod i chwythu llechi i ffwrdd a rhoi cyfle ir dðr fynd i mewn. Mae angen pobl arbennig i fynd i grib tor prif adeilad i drwsio ac mae hynnyn costio arian.
Mellt a tharanau
Mae trydan yn ddefnyddiol dros ben, ond brawd bach iawn!) ydyw ir fellten a gall greu llanast onid yw popeth yn iawn. Rhaid cael arbenigwyr iw archwilio ar gyfer tystysgrif Iechyd a Diogelwch, a dyna alw am ragor eto o arian.
Ysgrifennydd y Cyngor Plwyf
Maer Cyngor Plwyf wedi dechrau edrych ar swydd ysgrifennydd y Cyngor Plwyf o gofio mai trwy ei gofnodion ef y cawn hanes yr eglwys drwyr blynyddoedd. Mae rhain teimlo nad yw gwaith ysgrifennydd yn fwy na chadw cofnodion Cyngor Plwyf, ond mae eraill yn teimlo y dylair holl faterion ysgrifenyddol fynd trwyddo ef, fel ffordd o ddiogelu holl hanes yr eglwys ir dyfodol.
Llithiadur Newydd
Dywedodd y ficer wrthym fod llithiadur newydd ar y gweill a chytunodd y Cyngor Plwyf i roi cynnig arno ar gychwyn Tymor yr Adfent a pharhau gydag ef am gyfnod arbrofol o chwe mis o leiaf. Maer ficer yn ei ddisgrifio yn y rhifyn hwn.
Priodas ac Ysgariad.
Mae hwn wedi bod yn bwnc llosg yn y byd Cristnogol trwyr blynyddoedd. Yn ddiweddar, awgrymwyd y gallai aelod ffyddlon or eglwys ailbriodi yn yr eglwys honno. Mae hyn yn codi ambell gwestiwn yn syth, nid lleiaf, Beth yw ffyddlon? Gofynnwyd ir ficer arfer ei ddoethineb yn hyn o beth a gweithredu fel y gwelai ef orau.
Ymddiriedolaeth Hafod Lon Gan fod Jane Ross wedi penderfynu ein gadael, mae angen un i weithredu fel ymddiriedolwr yn ei lle.
Ysgrifennydd adeiladau
Y ficer a gyflwynodd y mater hwn ac oherwydd prinder amser, nid yw wedi cael ei drafod yn llawn. Gwaith ysgrifenydd o'r fath fyddai cofnodi digwyddiadau a gynhelir yn yr eglwys. Daw rhagor am hyn ar ôl cyfarfod nesaf y Cyngor Plwyf.
Y Parchedig Ieuan Davies
Maen hysbys bod y Parchedig Ieuan Davies, wedi cyfnod llewyrchus, wedi gadael bugeiliaeth Eglwys Minny Street a mynd i fugeilio Eglwys y Tabernacl, Treforys. Teimlair Cyngor fod perthynas gynnes wedi datblygu rhwng eglwys Minny Street ac Eglwys Dewi Sant gydar blynyddoedd a bod llawer or clod am hynny iddo ef. Gofynnwyd i W J Jones anfon gair ato ar ran yr eglwys i ddymunor dda iddo yn ei ofalaeth newydd.
Rhywbeth ich dyddiadur
Nos Fawrth 2 Tachwedd: Cylch Trafod
Nos Fawrth 3 Tachwedd: Miri Minny Street yn Newi Sant
Nos Fawrth 10 Tachwedd: Cylch Trafod
Nos Iau 12 Tachwedd: 7.30 yn Bethel Rhiwbeina Mawlgan dan ofal Y Parchedig Ganon Alan Luff Dan nawdd Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd)
Nos Fawrth 17 Tachwedd: Cylch Trafod
Bore Sadwrn 21 Tachwedd: Ebeneser. Bore Coffi a Ffair.
Sadwrn 21 Tachwedd: Os ych chin hoffi steddfod, cofiwch am steddfod Amgueddfa Werin Sain Ffagan ar y diwrnod hwn.
Nos Fawrth 24 Tachwedd: Cylch Trafod
Dydd Sadwrn 28 Tachwedd: 4.00 Datganiad ar organ Eglwys Dewi Sant gan Michael Hoeg
Nos Sul 29 Tachwedd: 7.00 yn y Tabernacl Gwasanaeth carolau dan nawdd Cyngor Eglwysi Canol y Ddinas
Llyfr ar Beethoven
Mae David Wyn Jones, gðr Ann Wyn Jones wedi cyhoeddi llyfr pwysig, Life and Music of Beethoven. Fei cyhoeddir gan Wasg Prifysgol Caergrawnt.
Bore Coffi a Ffair
Bore dydd Sadwrn 21 Hydref bydd bore coffi a ffair Cymorth Cristnogol yng nghapel Ebeneser, Ffordd Churchill. Bydd yn parhau o ddeg y bore tan ddeuddeg. Eglwys Dewi Sant fydd yn gyfrifol am y stondin gacennau, a bydd yno stondinau ystafell ymolchi, pethau Nadolig a raffl ymhlith pethau eraill Gallwch gael tocynnau, syn costio 50 ceiniog yr un, gan Dawn King neu Rosemary Davies.
Clychau Priodas
Bore Sul 11 Hydref, yn Eglwys Fethodistaidd Copleston Road, Llandaf, priodwyd Philip Laugharne ac Elaine Clee gan y Parchedigion Andy a Helen Syall. Yr organydd oedd Robert Court. Gwisgai Elaine ffrog lês binc a chariai flodau or un lliw. Bendithiwyd y briodas yn ddiweddarach yn Eglwys Dewi Sant gydar Parchedigion Aled Edwards a Maxwell Evans yn gweinyddu. Bu bwffe i ddilyn yng Ngwestyr Parc. Bydd Philip ac Elaine yn ymgartrefu yn Radyr Cheyne.
Dathlur Cynhaeaf
Bu cryn lwyddiant ar ddathlur cynhaeaf eleni. Daeth tri dwsin ynghyd ir swper cynhaeaf yn y neuadd ar 1 Hydref i fwynhau gwledd oedd wedi ei pharatoi gan y gwragedd ifanc. Cafwyd eitemau gwirioneddol dda in diddanu gan Gôr Merched Llandaf o dan arweinyddiaeth Siân Schultz, côr sydd wedi ei ddewis i gystadlu yng Nghystadleuaeth Sainsbury ym mis Tachwedd. Dymunwn yn dda iddo. Gwnaed £88 o elw ar y noson.
Roedd tua chant yn cymuno yn y gwasanaeth diolchgarwch ar y 4ydd o Hydref. Pregethwyd yn rymus gan Mrs Cath Williams mewn gwasanaeth oedd dan ofal Y Parchedig Aled Edwards. Darllenwyd y llithiau gan Dawn King a gweinyddwyd y cymun gan Y Parchedig Maxwell Evans yn cael ei gynorthwyo gan Eunice Iddles ar Gwir Barchedig Cledan Mears. Cafwyd canu godidog yn ystod y gwasanaeth a rhaid diolch ir organydd an côr-feisrt am eu llafur caled. Diolch hefyd ir cyfeillion fun addurnor eglwys. Roedd yn wirioneddol brydferth. Maer bwydydd a gasglwyd wedi eu hanfon i Romania lle mae galw mawr amdanyn nhw.
Dal i wella
Roeddem yn falch deall bod rhai on haelodaun dal i wella wedi salwch diweddar. Priodol yw cofio am Mrs Lil Rees, Miss Griffle Price Jones a Mrs Harriet Davies. Mae Mrs Morfudd Stone gryn dipyn yn well erbyn hyn ond cydymdeimlwn â hi yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer yng nghyfraith yn ddiweddar. Bu Miss Marian Richards yn ysbyty Llandochau am gyfnod a braf yw cael ei chroesawun ôl in plith. Mae Doreen Fairclough yn ddigon diddan yng nghartref Sant Alban, Sblott ar ôl gwaeledd blin. Dewch yn llu i gefnogir achos da hwn.
Noson Cymdeithas y Beibl
Ar 7 Hydref bu gwasanaeth a ffair i ddilyn) er budd Cymdeithas y Beibl Adran Chwirorydd Eglwysi Caerdydd).
Ân heglwys ni yn westai eleni braf oedd gweld cynrychiolaeth gref o wahanol eglwysir ddinas. Ar ôl gair o groeso gan y Llywydd, Mrs Rosalyn Williams, aeth y gwasanaeth yn ei flaen gyda darlleniadau dwyieithog gan Falmai Griffiths a Dawn King. Yna eitem yr un gan Catrin Mears a Judith Poulson, un yn adrodd ar llall yn canu. Roedd cyflwyniad y pedair yn feistrolgar a graenus.
Cyfeiliodd Marian Fairclough yn ei ffordd ddisgybledig ei hun. Y pregethwr gwadd eleni oedd Y Parchedig Aled Edwards a phregethodd ar y thema: Y Gair ir Bobl ar Bobl ir Gair. Roedd pob gair yn llygad ei le. Wedyn ir neuadd i fanteisio ar fargeinion y stondinau ac i flasur coffi a baratowyd gan Megan Davies ai chriw gweithgar. Roedd y neuadd yn llawn dop, y cwmnin hapus ar naws yn wresog. Diwedd y gân ywr geiniog ar cyfanswm a gafwyd wrth ir papur hwn fynd ir wasg oedd £877. Margaret Jones a Sali Davies oedd yn gyfrifol am yr holl drefniadau.
Ennill Doethuriaeth
Estynnwn ein llongyfarchion cynhesaf i Julie Wilcox, Prospect Drive, Llandaf, ar ennill ei doethuriaeth mewn seicoleg clinigol. Mae hon yn radd ddiddorol trwy fod yr un syn ei hennill yn gweithio am dair blynedd yn y maes cyn ei hennill. Mae Julie yn gweithio hanner ei dyddiau gwaith yn Ysbyty Rookwood ar hanner arall yng Ngwasanaethaur Henoed yn Heol Don. Maen hanu o Solfach ond wedi treulio ymron ugain mlynedd yng Nghaerdydd, gydai gðr, Richard, a ddaw o Dyddewi au plant, Daniel a Helena.
The IncorporatedAssociation of Organists
Maer Gymdeithas hon yn cwrdd yn Eglwys Dewi Sant ar y Sadwrn 28 Tachwedd. Diben y cyfarfod yw sefydlu Cangen De-ddwyrain Cymru or Gymdeithas. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 2.30. Bydd te am 3.30 ac yn dilyn am 4.00 bydd datganiad ar yr organ gan Michael Hoeg, Dirprwy Organydd a Chôr-feistr Eglwys Gadeiriol Llandaf. Maer mynediad ir datganiad am ddim. Os ych chi am ragor o fanylion cysylltwch â Marian Fairclough neu John Watkin.
Gair gan y Ficer
Annwyl gyfeillion,
Pleser a braint yw cael eich cyfarch ar drothwy tymor yr Adfent. Yn ystod yr wythnosau nesaf hyn gobeithiaf fanteisio ar y cyfle i ymweld â phob cartref sydd dan fy ngofal. Er mwyn gweld pawb, y maen rhaid imi ddechrau yn gynnar. Ymddiheuriadau felly os y byddwch yn derbyn cerdyn Nadolig ym mis Tachwedd.
Gofynnwyd imi ddweud gair am y llithiadur newydd. Fel y gwelwch mewn man arall, penderfynodd Cyngor Plwyf yr Eglwys y byddem yn defnyddior Revised Common Lectionary am gyfnod arbrofol o chwe mis o Sul Cyntaf yr Adfent ymlaen. Maer llithiadur hwn wedi ei awdurdodi gan yr Eglwys yng Nghymru a phob talaith Anglicanaidd arall yn Ynysoedd Prydain. Y maen cael ei ddefnyddio mewn nifer helaeth o wledydd.
Hyd yma buom yn defnyddio rhai or darlleniadau hyn ar gyfer y Foreol ar Hwyrol Weddi. I elwan llawn ar gryfderaur llithiadur newydd hwn maen hanfodol ein bod yn cyplysur darlleniadau a osodir ar gyfer y Cymun Bendigaid ar Foreol ar Hwyrol Weddi. Fel y byddwch yn gweld, ceir dilyniant a phatrwm ir darlleniadau hyn. Yn gynyddol, darperir adnoddau arbennig syn rhedeg yn gyfochrog âr llithiadur newydd. Awgrymir gwersi ar gyfer ysgolion Sul, ymbiliadau pwrpasol ac emynau addas.
Maer llithiadur newydd yn rhedeg ar gylch tair blynedd. Golyga hyn y byddwn yn clywed llawer mwy or ysgrythur mewn gwasanaethau. Ceir amrywiaeth o flwyddyn i flwyddyn. Yn sgil yr arbrawf hwn byddwch yn sylwi ar nifer o wahaniaethau ymarferol: Weithiau bydd yr enwau a roddir ir Suliaun wahanol. Yn ystod y Cymun Bendigaid bydd y salm yn dilyn y darlleniad or Hen Destament Defnyddir y Beibl Cymraeg Newydd ar gyfer y darlleniadau. Er mwyn hwyluso rhediad yr arbrawf hwn byddaf yn darparu taflen wythnosol fydd yn cynnwys y darlleniadau ar gyfer y Cymun Bendigaid, y colect ar gyfer y Sul, yr ymbiliau ar cyhoeddiadau. Yr eiddoch yng Nghrist Aled Edwards Ficer)
Yn ôl i'r dudalen gyntaf