Ewch yn hyrwyddo Hen Gapel John Hughes, Pontrobert.

Yr Hanes

Adeiladwyd 1800 a’i droi yn gapel, ond fe’i defnyddiwyd fel gweithdy saer droliau mwy nag unwaith ac fel ysgol pan ddaeth John Hughes yno fel athro. Cafodd ei drwydded dysgu gan y Parchedig Thomas Charles o’r Bala, a hyd at 1805, sef blwyddyn marw ei ffrind agos, Ann Griffiths, Dolwar Fach, dywsaodd perthynas John Hughes â’r Methodistiaid lleol yn y pentref, ac erbyn 1814 gwelwyd ef yn aeddfed i’w ordeinio yn weinidog gyda’r Methodistiaid. Daeth yr adeilad yn gapel eto, gyda John Hughes a’i wraig Ruth, yn byw yn y tþ.

 

Y Dyfodol

Agorwyd y Capel fel CANOLFAN UNDOD AC ADNEWYDDIAD CRISTNOGOL I’R GENEDL yn Ebrill 1995, gyda phulpud John Hughes wedi ei adfer, ac yn ganolbwynt teilwng. Darparwyd toiledau a swyddfa ond y mae angen arian i dalu amdanynt ac apeliwn yn daer am eich cefnogaeth ariannol. Mangrte fydd hon i adlewyrchu gwir natur Ysbrydoledd Cristnogol ac i ymarferiad o bresenoldeb Duw....lle i bererinion neu ‘bobl y ffordd aros ar eu taith....lle i Gristnogion heddiw rannu gweledigaeth, pryderon, gobeithion a ffydd. Mae Tywysydd eisoes yn byw yn y tþ, a hi fydd yn trefnu gweithdai ac encilion yno yn y dyfodol agos.

Un o’r disgrifiadau cynharaf o Gristion yw ei fod, yn hytrach na bodloni ar ei gyflwr presennol, ar bererindod parhaol, yn dyheu am gael rhannu taith bywyd â’i gydymaith dwyfol. Bydd Hen Gapel John Hughes yn gyrchfan pererinion Cymru heddiw sydd â gwir syched am gyfeiriad i’w bywyd a thangnefedd mewnol.

Gwahoddir ymholiadau ynglþn ag ymweld a chynnal oedfaon. Nid oes modd i fysus mawr dramwyo’r lôn gul ond mae man parcio i geir o flaen y capel.

Ceir tafarnau ym Mhontrobert, Meifod a Llanfair Caereinion.

Lleoliad

Lleolir y Ganolfan ym mhentref Pontrobert oddi ar y ffordd A495 o Groesoswallt i Fachynlleth. Deir o hyd iddi wrth droi i’r dde wrth eglwys y plwyf, ac i fyny’r ail lôn gul ar y chwith, tua dau ganllath. Gyferbyn â’r capel ceir cofeb John a Ruth Hughes yn y fynwent.

Addoliad

Ceir myfyrdod a gweddi ddyddiol am 7.45 a.m. a phlygain fore Nadolig am 6.00 a.m.


Rhaglen 1999

Ebrill 10: "Exploring the Way Towards God" A.M. Allchin

Ebrill 17: "Ddoe a Heddiw" Saunders a Cynthia Davies

Mai 8: "Cymdeithas y Cymod"

Mai 22: " Ysbrydoledd Ecwmenaidd"

Mehefi 12: "Diwrnod Agored"

Mehefi 19: "Corrymeela Day" Hazel Lawson

Gorffennaf 3: "Jiwbili yn Harare"

Awst 12: "Diwrnod Ann Griffiths"

Medi 11: "Tystiolaeth Cristnogion" Nia Rhosier

Medi 18: "Diwrnod gyda'r Crynwyr"

Gellir trefnu ymweliad trwy gysylltu â Nia Rhosier, Tþ Hen Gapel John Hughes, Pontrobert, Maldwyn, SY22 6JA. Ffôn (01938) 500631.