Ewch Llythyrau

Cais gan Tearfund

Annwyl Gyfeillion,

"Mae'r daith hiraf yn cychwyn gydag un cam" meddai'r hen air o China.

Os ydych chi'n breuddwydio o dro i dro y gallwch fel Cristion newid y byd, darllenwch ymhellach.

Oherwydd mae yna ddigwyddiad yn eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth ar Sadwrm Chwefror 20 1999 o'r enw 'Camu mas .. a newid y byd er mwyn Crist'.

Mi wn i bod son am newid y byd yn swnio braidd fel rhethreg radical o'r chwedgau, ac efallai eich bod yn meddwl mai breuddwyd ffwl ydyw.

Ond os ydych chi'n barod i feiddio cymryd cam bach i newid pethau er mwyn Crist, be am roi cynnig arni?

A dyw'r digwyddiad ei hun ddim mor radical â hynny. Mae yna siaradwyr a seminarau ac arddangosfeydd a ballu. Mi fydd yna stwff ymarferol ynglyn â mynd dramor neu gefnogi gweithwyr cenhadol o gartref.

Ac fe'i llwyfennir gan bedwar mudiad o bwys: Interservve, OMF, UCCF a Tearfund. Dydy o ddim ond yn costio £4 (neu £2 i fyfyrwyr a'r digyflog) - ac mae hynny'n cynnwys cinio ysgafn.

Manlyion a ballu gan Siôn Meredith, Tearfund ar sxm@tearfund.dircon.co.uk

Rwan - atebwch y neges hon, rhowch hi yn y bin, neu anfonwch chi ymlaen i rywun arall a fyddai â diddordeb.

Diolch

Sion

Sion Meredith Trefnydd Cenedlaethol Tearfund Uned 6 Parc Gwyddoniaeth Aberystwyth Ceredigion SY23 3AH

Ffon/ffacs: 01970 626006 e-bost:     sxm@tearfund.dircon.co.uk Pager:      01426 380778

Yn dilyn sylwadau a gafwyd parthed llwyddiant Radio Cymru yn erthygl olygyddol Ewch (rhifyn 127) cafwyd ymateb cryf iawn gan Hafina Clwyd yn y Cymro (30 Medi).

Gwahoddir chwi i symud ymlaen a chael cip olwg ar safle'r Cymro.

Ers cyhoeddi sylwadau Hafina Clwyd yn ei cholofn wythnosol, anfonwyd yr ateb hwn at y Cymro. Mae'n mynegi argyhoeddiad personol y Golygydd.

Annwyl Syr,

Gan fy mod wedi disgyn dan lach Hafina Clwyd (rhifyn 30 Medi) ynglþn â’r hyn a ysgrifennais yn Ewch am lwyddiant Radio Cymru, carwn gynnig sylw neu ddau os gwelwch yn dda.

Mae’n rhaid i mi gyffesu fy mhechod. Onibai i gyfaill ddwyn fy sylw at sylwadau eich colofnydd ni fyddwn wedi eu darllen. Gan nad wyf wedi darllen y golofn hon ers blynyddoedd, caf rannau helaeth o’r hyn sydd ganddi i’w ddweud yn oddrychol i ddweud y lleiaf. Cofiwch, fynnwn i ddim ymfalchio yn fy methiant neu fy amharodrwydd i ddarllen rhywbeth.

Carwn eich sicrhau bod yr hyn a ddywedir am nifer y rhai sy’n gwrando ar Radio Cymru yn gywir. Mae cynulleidfa Radio Cymru yn uwch na chyfanswm gwrandawyr Radio 3 a Radio 5 Live gyda’i gilydd - hynny yw, yng Nghymru.

Parthed yr hyn a ddywedir am ‘ddychryn yr Ysbryd Glân’ mae’n amlwg nad yw eich colofnydd yn dirnad y gwahaniaeth rhwng dirmyg a dychan. Mae dychan dda yn mynnu dealltwriaeth: nid wyf yn canfod dealltwriaeth yn rhethreg eich colfnydd.

Addasu dadansoddiad treiddgar y diwinydd Graham Cray wnes i yn fy sylawdau gwreiddiol yn Ewch. Mae ganddo ddarlun syml ond grymus o drafferthion diwylliannol yr eglwys fore. Gwelir Pedr druan, yr Iddew greddfol, yn cael gweledigaeth o fwydydd halogedig - sosejys i chi a fi. Ar ddiwedd y weledigaeth hon y mae Pedr yn cael gorchymyn, “Yr hyn y mae Duw wedi ei lanhau, paid ti â’i alw’n halogedig.” O’r profiad diwylliannol ysgwytiol hwn mae Pedr yn cerdded i dþ Cornelius, milwr Rhufeinig, ac yn dod wyneb yn wyneb â diwylliant Cristnogol a oedd yn gwbl wahanol - cymuned Gristnogol nad oedd yn Iddewig. Gollyngodd Duw ei safonnau yn ddifrifol.

Erbyn hyn, nid ydym yn defnyddio’r gair halogedig wrth gyfarfod â diwylliant newydd, ond gan arddel ymarweddiad nawddoglyd, cred rhai bod ganddyn nhw yr hawl i ddiffinio safon ac i ddyfarnu bod eraill yn dwp. Gyda phob parch i’ch colofnydd, cefais y fraint o ymwneud â Chymry Cymraeg godidog sy’n defnyddio ‘boi’ a ‘hen goes’ yn gwbl naturiol. Dan wyneb sylw eich colofnydd ceir datganiad afiach - os ydych am fod yn Gymro go iawn mae’n rhaid i chi fod yn Gymro fel fi.

Bellach, mae cenedlaethau wedi edrych ar batrymau traddodiadol oddi mewn i’n diwylliant, gan gynnwys y capeli a’r eglwysi, a datgan yn huawdl eu bod yn dymuno bod yn Gymry, ond yn Gymry gwbl wahanol i’r hyn a bennir gan rai. Gorwedd ein dyfodol yn yr hyn y gallwn ei greu o’r genhedlaeth hon, nid mewn cadwraeth ddiwylliannol. Gall unrhyw ffðl gadw diwylliant, ond y mae’n cymryd rhywbeth amgenach i ymwneud â’r newydd a’r creadigol. Cafwyd ymdrech ar ran Radio Cymru i gyfarfod â gofynion diwylliant newydd. Cowtowio neu beidio, gwerthfawrogaf yr ymdrech sy’n anelu at rywbeth rhagorach na thwpeiddio.

Pryderaf yn fawr bod eich colofnydd yn crafu mewn man lle nad yw Cymru bellach yn cosi a gofidiaf y daw dim amgneach o’r crafu hwn na chodi crach.

Yr eiddoch,

Aled Edwards.

Beth am anfon eich sylwadau at y Golygydd