Cambrian Mountains Society graphic

Newyddion

CLICIWCH YMA AM ARCHIF DATGANIADAU NEWYDDION


DATHLU LANSIO'R GYMDEITHAS - 25 HYDREF 2005

Cliciwch yma am adroddiad


AR Y BÎB

Ar hyn o bryd mae gan BBC Ar-lein ddwy dudalen we am sefydlu Cymdeithas Mynyddoedd Cambria:

1. Cliciwch yma am eitem newyddion;

2. Cliciwch yma am erthygl a ysgrifennwyd gan un o ymddiriedolwyr y Gymdeithas, Martin Wright.


BOURNE YN CEFNOGI GALWAD AM AHNE

Dywedodd Nick Bourne, arweinwyr y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac AC Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ddiweddar: "Rwy'n cefnogi Cymdeithas Mynyddoedd Cambria i'r carn yn eu hymdrech i gael gwneud Mynyddoedd Cambria yn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae'r mynyddoedd yn syfrdanol o brydferth a rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y caiff y dirwedd ysblennydd hon ei gwarchod er mwyn i genedlaethau'r dyfodol allu ei mwynhau".


EXHIBITION CELEBRATES THE CAMBRIANS

Cynhaliwyd arddangosfa lwyddiannus gan y Gymdeithas dros Wyl Banc y Gwanwyn yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan ger Rhaeadr Gwy.

Dyma oedd y digwyddiad cyhoeddus cyntaf i'w drefnu gan Gymdeithas Mynyddoedd Cambria, ac roedd yn rhoi sylw i ffotograffau prydferth Martin Wright, un o ymddiriedolwyr y Gymdeithas.

Roedd yr arddangosfa'n adrodd hanes Mynyddoedd Cambria, y grymoedd a'u lluniodd, perthynas hir dynol ryw â'r tir; a'r pwysau mae'n eu hwynebu yn yr unfed ganrif ar hugain. Ei nod oedd cyfleu naws y Mynyddoedd a dadlennu eu hanes trwy ddelweddau a geiriau.

Mae'r Gymdeithas yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Cwm Elan am ei chefnogaeth ariannol tua'r gost o lwyfannu'r arddangosfa.


CAMBRIAN
MOUNTAINS
MYNYDDOEDD
CAMBRIA
TIRWEDD
CYMDEITHAS MYNYDDOEDD CAMBRIA
MATERION
AELODAETH
NEWYDDION
HANES Y PARC CENEDLAETHOL
PARCIAU CENEDLAETHOL AC AHNEau
CYSYLLTAU MYNYDDOEDD CAMBRIA
PANORAMÂU
CYSYLLTU Â CHYMDEITHAS MYNYDDOEDD CAMBRIA
ARDAL YR AELODAU