Cynllunio Gorsaf Bwer Anferth ar Gyfer Cefn Croes
Pam y Gwrthwynebwn Fferm Wynt Cefn Croes
Sylwadau ar Gefn Croes
Beth a Allwn ei Wneud i Atal yr Orsaf Bwer?
| HANES (Saesneg yn unig) |
PRIF TUDALEN | MAP LLEOLIAD | CYSYLLTIADAU ALLANOL |
Mae cwmni ‘Renewable Development Company’ (RDC), a gefnogir gan gwmni Americanaidd, yn dymuno codi Fferm Wynt fwyaf Prydain, yng Nghanolbarth Cymru. Bwriada RDC osod 39 o dyrbinau enfawr yng Nghefn Croes, ucheldir gwyllt, eang, uwchlaw pentrefi Cwmystwyth a Phonterwyd, i’r de o Bumlumon Fawr. Yn fwy na dwywaith taldra tyrbinau gwynt Ystumtuen bydd tyrbinau 328 troedfedd Cefn Croes yn ymgodi’n haerllug dros dirlun y Canolbarth. Golyga’r cynllun dorri ffyrdd â theirw dur drwy’r rhostir a gosod milltiroedd o wifrau trydan trymion dros y bryniau. Mae’r safle yn rhan o’r arwynebedd yr ystyriwyd, yn 1970, ei ddatblygu fel Parc Cenedlaethol y Mynyddoedd Cambriaidd. Mae hefyd yng nghanol Rhandir Amgylcheddol Sensitif a Chynefin Tirlun Arbennig, ac wedi ei lleoli ar ymylon un o’r Safleodd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig mwyaf yng Nghymru. Bydd y 39 tyrbin i’w gweld yn eglur o sawl rhan o’r Canolbarth, yn cynnwys Pumlumon, Ystad Cwm Elan, Bryn Bras, Trisant, Pontrhydygroes, a hyd yn oed Blaenplwyf a’r Waunfawr, gan ddwysáu’n fawr yr argraff a wneir ar bobl eisoes gan y 69 o dyrbinau llai sy’n bodoli mewn ardaloedd cyfagos.
Bwriedir i’r datblygiad hwn ddigwydd ar dir yn perthyn i’r Comisiwn Coedwigo a’r Cynulliad Cenedlaethol ac ymddengys ei fod yn mynd yn groes i Gynllun Mynydd y Ffynnon (noddedig gan Y Cynulliad Cenedlaethol), cynllun yn anelu at ddatblygu amaethyddol sydd mewn cytgord â thirlun ac amgylchedd. Ymhellach, anwybydda’r datblygiad ganllawiau Cynlluniau Lleol a Strwythurol Ceredigion yn llwyr ond oherwydd ei faint aruthrol gwneir y penderfyniad terfynol ynglyn â rhoi neu atal caniatâd cynllunio gan Adran Masnach a Diwydiant yn Llundain, yn hytrach nag yng Ngheredigion neu Gaerdydd. Bydd yn angenrheidiol i ymgynghori â Chyngor Sir Ceredigion a phe digwyddai’r Cyngor hwnnw benderfynu gwrthwynebu’r datblygiad byddai’n rhaid, wedyn, cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus.
Eisoes gellir gweld 250 o dyrbinau gwynt o Bumlumon yn gwbl eglur, gyda’r canlyniad fod Tirlun y Canolbarth yn cael ei ddiwydiannu’n gyflym. Lleolwyd bron i hanner holl felinau gwynt Prydain yng Nghymru ac y mae bwriad i godi rhai cannoedd yn ychwanegol yma. Byddai rhoi ffordd i gynllun Cefn Croes yn arwydd fod perfeddwlad Cymru yno i’w aberthu. Oni weithredwn ar fyrder gallem, ymhen blynyddoedd i ddod, fod yn edrych ar dirlun a ddiwydiannwyd yn llwyr.
Derbyniwn y ffaith fod angen arbed ynni a chreu ffynonellau ynni glân, adnewyddol, er mwyn cyfyngu’r difrod a achoswn i’r amgylchedd trwy losgi tanwydd ffosiledig. Ni chredwn, fodd bynnag, fod Cefn Croes yn lle cymwys ar gyfer datblygiad diwydiannol anferth.
Ni ddymunwn weld tyrbinau ar Gefn Croes oherwydd:
Nad oes angen
amdanynt. Mae llawer o ddulliau mwy effeithiol a llai difrodus o
leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosiledig. Enghreifftiau o hynny yw arbed
ynni, ynni’r haul, ynni’r gwynt mewn lleoedd diraddiadwy neu ddiwydiannol, gwynt
o’r môr a grym ton a llanw. Mae gorsafoedd pwer megis Cefn Croes ymysg y lleiaf
dibynadwy o ffurfiau ar ynni ‘amgen’. Nid yw’r difrod a achosid gan fferm wynt
Cefn Croes i dirwedd y Canolbarth yn werth y swm bychan o drydan a gynhyrchai.
Byddent yn difetha
man eithriadol o hardd. Perthyn prydferthwch dwys i’r Mynyddoedd
Cambriaidd ac y maent yn hafan i fywyd gwyllt prin. Mae mannau megis Cefn Croes
yn rhan o etifeddiaeth ddiwylliannol ac ysbrydol Cymru, yn wrthrych serch pobl
leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros adael i’r tyrbinau
hyn ddifa’r cefn gwlad amhrisiadwy hwn.
Ni fydd pobl
leol yn cael budd ohonynt. Haera RDC y bydd datblygiad Cefn Croes
er lles yr economi leol. Nid felly. Rhan fechan yn unig o’r gwariant cyfan a
werir yn y Canolbarth ac y mae’r symiau o arian a gynigir i’r cymunedau lleol
yn chwerthinllyd o fychan o gymharu â’r elw y disgwylir i’r Cwmni ei bocedu.
Ychydig yw nifer y swyddi lleol fydd yn cael eu creu. Yn y pendraw mae’n debygol
y bydd effaith gynyddol gorsafoedd pwer fel Cefn Croes yn tanseilio y fasnach
ymwelwyr werthfawr ac yn sgîl hynny fywoliaeth llawer o bobl leol sy’n ddibynnol
arni. Nid dod i weld tirwedd a ddiwydiannwyd y mae ymwelwyr ond i ddianc o’i
olwg.
Cynllun a orfodir
arnom o’r tu allan ydyw. Cefnogir y cynllun hwn gan Enron Corporation,
cwmni Americanaidd cydwladol mawr sydd, yn ogystal â datblygu gorsafoedd pwer
gwynt, hefyd yn codi gorsafoedd trydan sy’n llosgi tanwydd ffosiledig ail-law.
Er bod RDC yn honni ei fod yn gwmni Cymreig fe’i cofrestrwyd yn Yr Alban ac
y mae’r rhan fwyaf o’i staff yn byw yn Lloegr. Penderfynir tynged Cefn Croes
yn Llundain gan Adran Masnach a Diwydiant, nid yma, yn sirol. Dyma fwrw gwawd
ar ddelfrydau democratiaeth leol a chyfranogaeth gymunedol, grymusterau a ddylai
fod yn rhan o gynlluniau ynni adnewyddol.
Ystyrir cynlluniau Cefn Croes gan lawer sylwedydd fel rhai anghymwys a difaol. Dyma ddetholiad o sylwadau a wnaed arnynt gan gadwriaethwyr a phobl yn amrywio o ran barn wleidyddol.
"Methaf yn lan â deall y moedro pen parhaol hwn ynghylch gosod ffermydd gwynt ar dir
cadwriaethol gwerthfawr ac yn yr achos arbennig hwn synnaf fod y cais wedi cyrraedd cyn belled â
hyn...Lwc dda i bawb sy’n gwrthwynebu’r fferm wynt ddiangenrhaid hon".
Iolo Williams (y Naturiaethwr adnabyddus)
"Gorffwylledd yn y mynyddoedd yw peth fel hyn".
Merfyn Williams, Cyfarwyddwr,YDCW (Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig)
"Gellir adnewyddu ynni gwynt; nid felly ein tirweddau ceinaf. Unwaith y codir gorsaf bwer mae’r
nam i’r wlad oddi amgylch yn gwbl anadferadwy".
Yr Arglwydd Geraint o Bonterwyd (cyn-A.S. Ceredigion, Democratiaid Rhyddfrydol)
Ar hyn o bryd mae gor-ddibyniaeth ar ynni gwynt yng Nghymru...Mae traean o holl ffermydd gwynt
y Deyrnas Unedig i’w cael yma yng Nghymru: dyma’r pendraw i ni".
Simon Thomas, A.S. (Ceredigion, Plaid Cymru/The Party of Wales)
"Gwrthwynebwn a chondemniwn y cynnig i godi fferm wynt ar ucheldir Cefn Croes".
Plaid Werdd Cymru.
"Rwy’n hollol wrthwynebus i ffermydd gwynt ac ers tro byd bûm yn ymgyrchu yn erbyn i gynlluniau
tebyg i’r un y cyfeiriwch ato yng Nghefn Croes gael eu dwyn ymlaen."
Nick Bourne A.C.(Arweinydd Ceidwadwyr Cymru)
Mae’n bosibl i’w hatal. Pan fydd y ceisyddion yn anfon eu Cais Cynllunio ffurfiol i mewn bydd cyfleoedd lleol i ystyried y cynigion a’u heffeithiau. Rhoir cyhoeddusrwydd i hyn drwy’r wasg ac os medrwch gallwch ofyn am gopi o grynhoad Annhechnegol o’r cais; bydd ar gael, am ddim, ond gofyn amdano. Neilltuir cyfnod byr ar gyfer ichwi wrthwynebu a dylech wneud hynny trwy sgrifennu at y Cyngor Sir (gydag anfon copi o’ch llythyr i Adran Masnach a Diwydiant). Os yn bosibl siaradwch â’ch Cynghorydd Sir lleol. A bwrw bod Cyngor Sir Ceredigion yn gwrthwynebu bydd yn rhaid cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus; fforwm gymwys ar gyfer dod i benderfyniad mor bwysfawr â hwn.
| HANES (Saesneg yn unig) |
PRIF TUDALEN | MAP LLEOLIAD | CYSYLLTIADAU ALLANOL |