Rheilffordd Fach Y Rhyl

Agorwyd ein rheilffordd ar 1af Mai 1911, a hi yw’r lein fach hynaf yn y D.G. bellach. Bu llawer o’n hymwelwyr yn teithio arni pan oedden nhw’n blant, a dyma nhw’n dod â’r genhedlaeth nesaf i rannu’r profiad!

Cynhelir y rheilffordd yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr heddiw, ar ran Ymddiriedolaeth Cadwraeth Stêm Y Rhyl, elusen gofrestredig.

Gall cefnogwyr ymuno â ‘Chyfeillion Rheilffordd Fach Y Rhyl’ am gyn lleied  â £7.50 y flwyddyn. Ffoniwch 01745 339477 am fanylion. 

AMSERLEN 2007

   GWYLIAU BANC (SUL A LLUN)
16 a 17 Ebrill; 30 Ebrill a 1 Mai; 28 a 29 Mai; 27 a 28 Awst

BOB DYDD SUL, O 11 MEHEFIN HYD 12 MEDI

BOB DYDD IAU A DYDD SADWRN
YN YSTOD GWYLIAU HAF YR YSGOLION

Bydd trenau stêm yn rhedeg o leiaf rhwng 1yh a 4yh

ar bob un o’r dyddiadau uchod os bydd y tywydd yn ffafriol.
Gan amlaf, bydd y trên cyntaf am 11.30yb a’r un olaf am 5yh.

  Pris y tocyn - dim ond £1 i’r rhai sy’n ddwy oed a mwy

Ymholiadau Amserlen: Teliffôn 01352 759109

 

Friends of Rhyl Miniature Railway

Back to Rhyl Minature Railway Home Page

2007 Timetable