Cartref/Home
Ffordd Deiniol -
Bangor- Gwynedd


Cynhyrchiadau Cwmni Theatr Gwynedd, 1999
Cwmni Theatr Gwynedd's Productions, 1999

mwy ar "Oleanna"/more on "Oleanna" mwy ar "Bownsars"/more on "Bownsars" Dyn Hysbys

Dyn Hysbys flyer
Mae Frank yn ddyn hysbys sy'n iachau cleifion trwy ffydd.Teithiodd yn faith am flynyddoedd gyda'i wraig a'i reolwr.
Yng nghyfaddasiad Annes Gruffydd o waith Brian Friel gwelwn Frank (Owen Garmon), Grace (Iola Gregory) a Teddy (Ifan Huw Dafydd) yn ceisio ymdrin â'u hatgofion a phob un ohonynt eisiau eu rhannu.
Y cwestiwn yw, pwy fentrith rannu'u cyfrinachau ac adrodd y stori'n gyfan?
Frank is a faith healer who heals his clients through faith. He traveled for many years with his wife and agent.
In this Welsh adaptation of Brian Friel's
The Faith Healer, Frank (Owen Garmon), Grace (Iola Gregory) and Teddy (Ifan Huw Dafydd) try to deal with their memories and want to tell you their side of the story.
The question is, who will venture out to tell the truth and the secrets behind it?
Daw Brian Friel o Omagh yn Iwerddon ac fel dramodwr Gwyddelig enwog mae ei waith yn ymdrin â themâu gwleidyddol Gwyddelig. Daeth yn ddramodwr wedi cyfnod fel athro yn ysgolion ardal Derry.
Ymsyg ei ddramâu mwyaf dylanwadol mae Philadelphia, here I come!, Translations, The Freedom of the City, Aristocrats a'r enwog Dancing at Lughnasa sydd yn cael ei ddangos yn ryngwladol ar y sgrin fawr gyda'r actor Cymraeg Rhys Ifans yn chwarae rhan gyda Meryl Streep.
Brian Friel is an Irish playwright from Omagh, Ireland and is famous for his political themes based on Irish culture and life. He became a playwright after teaching for many years in schools around the Derry area.
Some of his most famous and influential plays are
Philadelphia, Here I Come!, Translations, The Freedom of the City, Aristocrats and Dancing at Lughnasa, which is now a film starring Meryl Streep, Michael Gambon and Rhys Ifans, the Welsh actor.
Mae Cwmni Theatr Gwynedd yn falch o groesawu y tri actor profiadol o'r radd flaenaf i weithio efo'r Cwmni am y tro cyntaf.
Yn ogystal ag actio mae Iola Gregory hefyd yn cyfarwyddo â'i gwaith diweddar yn cynnwys Paris i Bara Caws. Efallai ei bod yn fwyaf gyfarwydd i chwi fel Jean McGirk yn Pobl y Cwm ond yn ddiweddar gwelwyd yn y gyfres gomedi Meibion Glandwr.
Ifan Huw Dafydd oedd yr enwog Dic Deryn yn Pobl y Cwm, ond yn ddiweddar mae ei waith wedi cynnwys Y Glas, Y Palmant Aur a Mortimer's Law ac ar hyn o bryd mae i'w glywed ar y gyfres radio Station Road.
Yn cwblhau'r drindod mae Owen Garmon. Fe'i gwelwyd yn ddiweddar yn Y Palmant Aur, Porc Pei, a'r ddrama lwyfan Fel Anifail gan Meic Povey. Mae newydd ymddangos yng nghynhyrchiad llwyddiannus Cwmni Torch Theatre The Woman in Black.
The three actors in this play are well known on the screen and stage. It will be the first time for all three to perform for Cwmni Theatr Gwynedd.
Iola Gregory has also directed, her most recent work being Bara Caws'
Paris and has recently appeared in the Welsh sitcom Meibion Glandwr.
Ifan Huw Dafydd has been on our screens either as Dic Deryn in the series
Pobl y Cwm, Y Glas, Y Palmant Aur or Mortimer's Law. He is also due to appear as Bob Cave in Radio Wales' Station Road.
Owen Garmon has recently performed in the successful performance of
The Woman in Black produced by Torch Theatre. He has also appeared on our screens in Y Palmant Aur, Porc Pei and in the stage drama Fel Anifail by Meic Povey.
Cynhyrchwyd Faith Healer yn gyntaf yn 1979 ar Broadway, Efrog Newydd a bu'n llwyddiant ysgubol. Faith Healer was first performed in 1979 on Broadway, New York. The play was an instant success.
Bydd y perfformaid cyntaf ohoni yn y Gymraeg drwy addasiad telynegol Annes Gruffydd yn Theatr Gwynedd o nos Iau 18 Mawrth hyd at nos Sadwrn 27 Mawrth am 7.30yh. Cwmni Theatr Gwynedd perform this lyrical adaptation by Annes Gruffydd at Theatr Gwynedd from Thursday 18 March to Saturday 27 March at 7.30pm.
Mae'r tocynnau yn gwerthu'n barod felly gwnewch yn siwr o'ch seddi; gwnewch yn fawr o'r cynigion arbennig sydd ar gael i'r cynhyrchiad yma. Tickets are already on sale and are going fast. Book your tickets early on (01248) 351708 and make the most of the special offers on this show.
Ein cwmni cynhyrchu/Our producing company
Pen y dudalen/Top of page Dyddiadur
Diary
Archebu a Gwybodaeth/ Booking Information Cartref/Home