archif sioeau DALIER SYLW  production archive
Gwyn Vaughan Jones yn Calon Ci - llun ©phil cutts

sioe :

Calon Ci

awdur / author:

Gareth Miles (ar ol Mikhail Bulgakov)

cyfarwyddwr / director: Bethan Jones

cynllun / design:

Kate Driver

cast:

Gwyn Vaughan-Jones / Trefor Selway / Lowri Mae / Eiry Thomas / Eirlys Britton / Iestyn Jones / Danny Greehan /

synopsis:

Pan ofynnwyd imi lunio fersiwn Gymraeg o gomedi Bwlgacoff, sy'n dychanu'r ymgais ynfyd i greu cymdeithas a reolir gan anghenion pobl, yn hytrach na'r Farchnad Rydd, roedd yr Undeb Sofietaidd yn bwer byd-eang. Nid yw'n bod , erbyn hyn.

Mae miliynau ar filiynau o Rwsiaid ac aelodau o genhedloedd eraill, a fu am 70 mlynedd yn ochneidio dan ormes y Bolsiefiaciad, yn awr yn mwynhau breiniau Democratiaeth, gan gynnwys gwasg rydd, cyfryngau dilyffethair a'r hawl i ethol cynrychiolwyr seneddol wedi eu dethol yn ofalus, bob hyn a hyn.

Ni ellir gwadu fod y Chwyldroadau a ddymchwelodd yr Ymerodraeth Sofietaidd wedi esgor ar rai datblygiadau braidd yn annymunol- cynnydd mewn diweithdra, trais rhyng-gymunedol, dibyniaeth ar gyffuriau; cyni; tlodi ; newyn; gwrthdibyniaeth; gangsteriaeth; puteiniaeth ac yn y blaen ond "ni cheir y melys neb y chwerw" a phris bychan yw hyn i'w dalu am fendithion y Farchnad a chyflawn aelodaeth o Wareiddiad Cristnogol y Gorllewin

Clodwiw dros ben fuasai rhoi cyfle i'r Cymry wawdio diffygion y gyfundrefn Sofietaidd tra roedd honno mewn grym. Amheuwn a ellid cyflawnhau gwario arian cyhoedd ar brosiect o'r fath a'r bygythiad i'r Dwyrain wedi cilio (er fod y Weinyddiaeth Amddiffyn a'n Lluoedd Arfog yn dal ar eu gwyliadwriaeth). Eithr mae mwy i nofel Bwlgacoff na dychan. Dameg grefyddol ydyw yn ei hanfod, wedi ei seilio ar Fyth y Creu, fel y'i ceir yn chwedl Pygmalion ac yn hanes Gardd Eden, yn Llyfr Genesis. Mae i Calon Ci neges oesol ac yn amserol iawn yn y byd sydd ohoni: Pan wrthryfela dyn yn erbyn ei Greawdwr mae'r gosb yn ddychrynllyd ac yn anochel
Gareth Miles

adolygiadau / reviews:

"Gareth Miles combines the comedy of Puss in Boots with the horror of Frankenstein - and, increasingly living in Wales today is like appearing in some terrible pantomime.
The audience is introduced to a Cardiff of the future where the bourgeoisies hide behind security fences that keep out the lumpen proleteriat that exists on a diet of violent crimes and begging.
We see this new world through the eyes of a dog, Saunders - named after Saunders Lewis the right-wing Welsh language writer and theorist.
...Miles' play is a wickedly funny attack on the Welsh-language middle class establishment who increasingly seek a compromise with the current Tory government. They wrongly feel that cultural nationalism is compatable with the enterprise economy. They believe, in the words of Saunders - in both senses of the word , a dog who has been taken in - "at least I'll die with a full stomach".
Morning Star 18/2/1994

"Dychan yw'r nod ac mae rhywun neu'i gilydd yn cael waldan bob yn ail frawddeg bron, yn amrywio o S4C, WDA, y gwasaaeth iechyd, gohebyddion y gellir eu prynu, y frawdoliaeth sefydliadol, gwleidyddion, rygbi Cymru, cynhyrchwyr annibynnol...a hyd yn oed rhai mathau o Gymreictod. Mae'n anodd dal i fyny weithiau wrth i began ddilyn pegan. Ond, yn syml, mewn trahaustra gwyddonol, unffurfiaeth orfodol a geneteg arbrofol y mae danedd yr awdur ac y mae ei neges ganolog yn un cwbl ddifrifol drwy'r chwerthin a'r doniolwch
Y Cymro 19/1/1994

dyddiadau / date:

Ionawr 1994