archif sioeau DALIER SYLW  production archive
maoysata gan dalier sylw llun ©ffoytofictions

sioe :

Maoysata

awdur / author:

Sera Moore Williams

cyfarwyddwr / director: Bethan Jones

cynllun / design:

Sean Crowley

cast:

Nicola Branson, Pebs Jones , Jenny Livsey, Catrin Powell , Einir Sion , Sian Summers, Betsan Llwyd , Iwan Tudor

synopsis:

Ar ol darllen erthygl hynod diddorol ym mhapur newydd The Observer nol ym mis Mai 1995 , cafodd Sera Moore Williams ysbrydoliaeth i ysgrifenu y ddrama Maoysata.

Yn yr erthygl, o dan y pennawd 'Angel of the cave sketches out her future' adroddir hanes dynes cafodd ei darganfod mewn ogof yn marw o newyn. Aed a'r ddynes i'r ysbyty, ond roedd hin gwrthod siarad na datgelu dim am ei hun wrth neb.

Roedd hi'n cyfathrebu drwy ysgrifennu, tynnu lluniau a gwneud ystumiau a phan ofynnwyd iddi pwy oedd hi, dangosodd lun o angel.

Roedd Sera Moore Williams wedi ei hudo cymaint gan fywyd y ddynes yma yn yr ogof oedd yn galw'i hun yn Maoysata (fel darganfyddwyd yn hwyrach), penderfynodd ei ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer ei drama newydd .

Er nad dramateiddiad o'r hanes yn yr erthygl yw 'MAOYSATA', mae yna wraig mewn ogof yn dwyn yr un enw, Maoysata, mae yna angylion a dyn papur newydd.

Cynhyrchiad corfforol a rhythmig am golled yw 'MAOYSATA' - colli iaith, diwylliant a phobl, ac am y byd ysbrydol mewn gwrthdaro a'r byd materol.


She was very young when her right to be what she wanted to be in her own country was undermined. It was nothing much. But for her, the child's memory of not being chosen to be an angel in a Nativity Play symbolises the many disappointments which caused her to leave her native country as soon as she was able.

Now, at the threshold of motherhood, and in the context of the death of her grandmother, she responds to an invisible SPIRITUAL force, causing her to re evaluate the concept of belonging, and return to her native land.

HE was very young when his confidence in life was undermined. His mother died when he was a young boy, and he has hated everyone and everything since then. The childhood memory of four snarling angels at his mother's deathbed is a symbol of his loss and spurs his hatred. He blames his mother for leaving him, and the angels for taking her. His work as a gutter press journalist, offers plenty of opportunity to gorge himself on the devaluation of the traditional lifestyle and values of his early upbringing. The MATERIALISTIC world is his hiding place.

In a cave adjacent to the land which is home to them both, Maoysata has stopped to rest for a night before crossing the water and returning home. The Herald goes to the cave to seek out his latest story.

In the cave, Maoysata, through the confrontation with Herald comes face to face with the contemporary, materialistic country which awaits her. A country far removed from the paradise of her memory.

In the cave, Herald comes face to face with the possibility of a good STORY. A story which would be good enough to help him leave his country ( and perhaps his pain) for a land where life is easier.

BUT THERE IS NO "STORY". ITS SIMPLY THAT MAOYSATA LEFT, AND NOW WISHES TO RETURN.

In his wild enthusiasm to create a story that will sell, he eventually succeeds to deceive even himself that Maoysata is indeed an Angel.

SUDDENLY THERE IS MORE THAN A STORY IN THE CAVE.

He suddenly realises that he is face to face with the embodiment of that which he blames for the death of his mother and his own spiritual emptiness, and that at last he has the opportunity to punish her.

adolygiadau / reviews:

"Yn fy rol fel dynes apur newydd yn mynd i weld y ddrama rhyfeddol hon mi ges fy hun yn gwingo'n annifyr yn fy sedd, yn cochi o gywilydd yn y tywyllwch ac yn dymuno mai edrych arni ar deledu oeddwn er mwyn osgoi llygaid beirniadol y Corws ac edrychiad o gydnabyddiaeth , neu waeth, gan Herald. Dyn unrhywbeth-am-stori yw Herald. 'Newyddiadurwr' yn ystyr gwaetha'r gair. Daw ar draws ffacs yn amlinellu hanes Maoysata, gwraig y cafwyd hyd iddi yn newynu mewn ogof. Mae o'n gaeth. Beth ydi'r hanes? Lle mae'r stori yma? Lle ma'r sgandal?

Cyflawnodd y cwmni drama yma eu henw yn berffaith, gan ddal sylw a hynny am y perfformiad cyfan. Roedd technegau effeithiol - siffrwd papurau newydd ar y llwyfan yn creu swn y môr yn taro'n erbyn creigiau, a'r defnydd o'r 'gwe' o raffau. Rhaid nodi perfformiad anesmwyth o gelfydd gan Iwan Tudor fel y betheiad newyddion di-egwyddor a Betsan Llwyd yn gaboledig gynnil fel Maoysata.

Mari Jones-Williams
Western Mail 27/11/1997

dyddiadau / date:

Hydref 1997