Y Madogwys logo
 

elfed leqwis yn ymarfer Y Madogwys

Y Daith

Bu sawl taith yn ystod y cynhyrchiad yma. Aeth John Evans i chwilio am ei "frodyr" er mwyn creu undod rhwng y Mandaniaid a’r Cymry ar sail chwedl Madog. Rydym ni wedi ceisio creu undod theatrig ar sail cydweithio a chyd-ddeall.

Yn ystod ein "taith" canfuom gymaint o gyffelybiaethau yn ein hanes a’n diwylliant -- adleisiau o’r Mabinogi yn chwedlau’r Indiaid; hanes am ddiwylliannau a ieithoedd yn cael eu sathru gan fewnfudwyr; dwy genhedlaeth (gan gynnwys ein actorion brodorol ni) wedi colli’u iaith; atgyfodiad (diweddar i’r ieithoedd brodorol) trwy addysg feithrin….

Ond mae ‘na wahaniaethau mawr, a bu camddeall rhyngom yn aml, ac amheuaeth fawr ohonom ni’r "dynion gwyn" i’n cyd actorion o’r Amerig, roedd hwn yn gyfle i gyflwyno eu diwylliant ac addysgu pobl. Maent wedi hen arfer cael eu cambortreadu gan Hollywood, a’u defodau mwyaf sanctaidd yn cael eu sarhau. Yn wir mae’r frwydr yn erbyn yn stereoteip yn parhau I ni gyd, rydym ni wedi gweld "Cymry" od iawn yn cael eu portreadu ar lwyfannau ac mewn ffilmiau ar hyd y blynyddoedd!

Cenhadaeth yr indiad oedd diogelu a gwarchod eu diwylliant, a’r portread ohono -"Gorau Cymro, Cymro Oddi Cartef!" Ond fe gawsom gyd-ddealltwriaeth, ac fel mae’r cynhyrchiad a’r daith yn profi "Dyn yw Dyn ar Bum Cyfandir". Efallai ein bod wedi troedio ychydig ar hyd llwybr John Evans.

Daeth "taith" Elfed Lewis i ben yng nghanol y cyfnod ymarfer. Roedd yn ergyd fawr i ni gyd. Teimlai ei deulu y byddai Elfed wedi dymuno i ni fwrw mlaen, ac rwy’n ddiolchgar iawn i Wyn a gweddil y cwmni am fwrw ati mewn amgylchiadau mor anodd. Ond mae Elfed yn dal yn rhan o’r sioe. Roedd ei gyfranaid o ran caneuon, dawnsfeydd a gwybodaeth hanesyddol yn amhrisiadwy. Roedd yn berson unigryw, a oedd yn cyfrannu dilysrwydd arbennig i’r cynhyrchiad sydd wedi profi’n amhosib i’w ailgreu. Fe wnaethom ein gorau. Tra bod Gareth Miles yn cyflwyno ei sgript er cof am Gwyn Alf Williams, cyflwynaf i y cynhyrchiad hwn gyda diolch i Elfed, ein "Hen Wr Mwyn".

Bethan Jones


tudalen cartrefein cwmnicynyrchiadau cyfredolhanes y cmnicysylltwch a nienglish version?