archif sioeau DALIER SYLW  production archive
Owain  Garmon + Christine Pritchard yn 'Fel Anifail'

sioe :

Fel Anifail

awdur / author:

Meic Povey

cyfarwyddwr / director: Bethan Jones

cynllun / design:

Lloyd Ellis

cast:

Owain Garmon / Christine Pritchard

synopsis:

Ar ôl oes o ffermio yn un o ardaloedd mynyddig Cymru mae Defi a Mair yn meddwl am eu dyfodol. Delfryd Mair yw symud i fyngalo ar dir gwastad. Mae Defi'n dewis aros lle maent. Mae ymgecru yn anochel a daw cysgodion o'r gorffennol i beri gofid

Yn raddol daw'n amlwg fod trydydd presenoldeb cadarn ar y llwyfan gyda Defi a Mair, sef y tirlun o'u cwmpas. Wrth i drasiediau'r gorffennol ddod yn ôl i hambygio'r ddau - a pheri iddynt hambygio'i gilydd - gwelir bod gwytnwch y mynyddoedd y maent wedi treulio oes ar eu trugaredd yn rhan annatod o'r hyn ydynt. Gyda'r gwytnwch daw hanes, creulondeb, dycnwch, chwedloniaeth tylwyth teg a holl gyntefigrwydd paganaidd eu tras.

Y mae'r holl ddrama yn adlewyrchiad tywyll a chwerw o gymdeithas a ffordd o fyw yr ydym yn rhy barod i ramantu yn eu cylch a hiraethu ymlaen llaw am eu darfod


mae'r ddrama ym ar gael yn ein casgliad o gyhoeddiadau.

adolygiadau / reviews:

"Mae'r actio yn fendigedig. Owen Garmon a Christine Pritchard yn cyflwyno portreadau campus, sydd law yn llaw a'r goleuo effeithiol, yn cyfleu llond llyfr pensiwn o emosiwn a theimliad.

Ac mae cyfarwyddo cynnil Bethan Jones - beth arall allai'r cyfarwyddo fod gydag ond dau gymeriad ffosiliedig sy'n treulio'r rhan fwyaf o'r ddrama yn eistedd o bob tu bwrdd - an ategu'r effaith.

Yn wir mae moelni diffaith y cyflwyniad yn creu awyrgylch sy'n ymylu ar fod yn arswydus ac mae emosiwn a thyndra'r ddrama yn cyrraedd uchafbwynt emosiynnol, diolch i ddeffroad graddol ym mherfformiadau yr actorion - Christine Pritchard yn enwedig - a'r llwyfannu syml o wych

Robert-Henri Jones
Y Cymro 21/2/1996

dyddiadau / date:

Awst 1995