archif sioeau DALIER SYLW  production archive
bonansa

sioe :

Bonansa

awdur / author:

Meic Povey

cyfarwyddwr / director: Meic Povey

cynllun / design:

Rhian Cemlyn

cast:

Merfyn Jones / Gwenno Elis Hodgkins / Anwen Carlisle / Morgan Hopkins / Maldwyn John

synopsis:

Breuddwyd neu freuddwydion sy'n sbarduno a chynnal y byd. Mae hyd yn oed y cyfoethog a'r mwyaf breintiedig yn ein mysg yn breuddwydio. Dyna pam, decini, fod y Loteri wedi cael cymaint o afael ar ddychymyg naw deg y cant a mwy o'r boblogaeth.

Onid yw'n bechod na fyddai modd sianelu yr holl frwdfrydedd i gyfeiriad rhywbeth gwerth chweil - fel caru dy gymydog a'th gyd-ddyn hwyrach, neu yng nghyswllt ni yma yng Nghymru, gwir adfywiad ieithyddol

Ysywaith, y natur ddynol ydi'r natur ddynol ac mae'r Loteri yn brawf pendant (os buo angen prawf erioed) mai rhywiogaeth ddiflanedig fyddwn ni yn y pen draw. Ond pan ddaw hi'n ddydd o brysur bwyso, pan ddaw hi'n amser cloriannu, pa iws fydd ticed loteri gwerth deng miliwn i ddyn bryd hynny, ysgwn i?


mae'r ddrama yma ar gael yn ein casgliad o gyhoeddiadau.

adolygiadau / reviews:

"Drama gomedi a'i neges yn ddigon amlwg i bawb, ond chewch chi ddim eistedd yn ôl yn mwynhau yn llwyr. 'The spotlight's on you' wrth i oleuo clyfar ein taflu ni ar ein pennau i'r loteri theatraidd
Pwy sy'n gwylio pwy? Y ni sy'n gwylio portreadau dawnus a digrif y pum actor, ynteu...
Mae'r meta-theatr ôl fodern yma yn gynnil awgrymog ar adegau ac yn Frechtaidd amlwg ar y diwedd. Ydi o'n effeithiol?
Ewch i'w gweld hi a barnu, efallai na chewch archwiliad enaid dwys, ond o leiaf mi gewch lond bol o chwerthin
Gwenan Mared, Western Mail

dyddiadau / date:

Chwefror / Mawrth 1997/8