archif sioeau DALIER SYLW  production archive
morgan hopkins / emyr wyn ac alun ap brinley yn y cinio llun ©keith morris

sioe :

Y Cinio

awdur / author:

Geraint Lewis

cyfarwyddwr / director: Bethan Jones

cynllun / design:

Carys Tudor

cast:

Emyr Wyn / Morgan Hopkins / Alun ap Brinley / Dewi Rhys Williams / Delyth Wyn

synopsis:

Comedi fachog a leolir yng nghinio blynyddol Clwb Rygbi Cwmbrain. Cawn gwrdd â Cadno, maswr a chapten y clwb, sy'n gwybod ble y ganwyd pob aelod o dim Cymru am yr ugain mlynedd diwethaf. Ond 'dyw e ddim yn gwybod ble y ganwyd ei fab diweddaraf!

Cawn gyfarfod â Hefin, y prop, sy'n gobeithio cael tlws 'Chwaraewr y Flwyddyn'. Cawn weld a fydd Rol Bach, yr Ysgrifennydd, yn gallu sôn am rywbeth heblaw pwyllgor y clwb. A darganfod pam fod Iwan, yr ail reng, wedi tyfu barf.

Ac i goroni'r cwbwl, am y tro cyntaf yn hanes y clwb, mi fydd yna fenyw yn bresennol. Yn wir, mi fydd Ruth yno fel siaradwraig wadd. Beth fydd ymateb y bois i'w sylwadau di-flewyn-ar-dafod?


mae'r ddrama yma ar gael yn ein casgliad o gyhoeddiadau.

adolygiadau / reviews:

"A heady brew of coarse rugby banter, a dash of tart sexual politics and a squirt of cod philosopy to keep it fermenting.
The title refers to the ritual of the annual dinner held at the clubhouse of an outlandish, batty and boisterous rugby club. The action is ostensibly triggered by the choice of a woman as the guest speaker at the event...
The play is itself is something of a hybrid, but the sheer vitality and confidence of the cast succeed in outflaging its structural defects to a large extent"
Western Mail 1995

dyddiadau / date:

1995