"Tair mlynedd yn ddiweddarach wedi cyhoeddiad cyntaf
y ddrama mae cwmni Dalier Sylw yn teithio Cymru gyda Y Cinio.
Dyma ddrama lwyfan gyntaf Geraint Lewis sydd yn ysgrifennu sgriptiau
ar gyfer Iechyd Da.
Comedi yw hon am ginio blynyddol Clwb Rygbi neu, fel y mae'n
cael ei disgrifio yn y rhaglen, "Un o ddigwyddiadau pwysicaf
y calendr diwyllianol Cymreig".
Mae'n dilyn pum cymeriad ar y noson, ... Roland Pugh, Rol
Bach (Emyr Wyn), Hefin Ellis (Marc Roberts), Martin Edwards,
Cadno (Iwan John), Ruth Francis (Einir Sion) ac Iwan Richards,
Double Top (Alun ap Brinley),
Mae'r gomedi yn ddigri a'r sgriptio'n wych gan amlygu gwendidau
pob cymeriad yn gyfrwys ac annisgwyl. Closiodd y gynulleidfa
tuag at y cymeriadau mewn pedair golygfa a barhaodd am lai na
dwyawr. Mae'n berfformiad cyflym a'r sefyllfaoedd yn rhai credadwy
gyda defnydd effeithiol o iaith, dim gormod jyst digon.
Gwan yw Ruth o'i chymharu â pherfformiadau'r gweddill
ond efallai mai dyna'r bwriad mewn drama sy'n dilyn fformat
The Full Monty ac Up and Under.
I feddwl bod Geraint Lewis wedi ysgrifennu hon rhai blynyddoedd
yn ol bellach , mae'n gweddu'n berffaith i heddiw"
Y Cymro