Hanes tair putain wahanol iawn sydd yma - Mary, Bethan a Linda.
Myfyrwraig o gefndir breintiedig yw Bethan, sy'n puteinio er mwyn
talu am ei lle yn y coleg. Mae'n boendod i Linda, sy'n butain
ifanc surbwch, ond gwelwn y ddwy yn eu tro yn ffoi o'u sefyllfaoedd
drwy eu hatgofion a'u dychymyg.Putain profiadol, wedi ei chaledu
yw Mary.
Ystyriwn yr hyn sydd fwya' anfoesol - galwedigaeth y merched,
neu drachwant ffasiynol a dienaid eu landlord, Scoot?
Ai niwroses rhywiol ein cymdeithas sy'n gyfrifol am gynnydd puteinio,
neu'r amodau cymdeithasol dinistriol cynyddol?
Nid ceisio ateb yr amlwg a wneir ,ond creu darlun bras o fywyd
pedwar cymeriad mewn un gornel fach o'r cynfas
mae'r ddrama ym ar gael yn ein casgliad o gyhoeddiadau.
|