archif sioeau DALIER SYLW  production archive
Y Madogwys llun © keith morris

sioe :

Y Madogwys

awdur / author:

Gareth Miles

cyfarwyddwr / director: Bethan Jones

cynllun / design:

Sean Crowley

cast:

Carlisle Antonio, Jonothan Joss , Alex Kawisanhawe Rice , Phil Harris, Wyn Bowen Rees, Liz Armon-Lloyd , Arwel Griffydd, Idris Morris Jones, Bethan Mason, Dyfrig Morris

synopsis:

Ym mis Chwefror 1999, cyflwynodd Dalier Sylw Y Madogwys yn Neuadd Waunfawr i lansio Gwyl John Evans - dathliad chwe mis o ddigwyddiadau diwyllianol a chymdeithasol wedi eu trefnu gan Antur Waunfawr i goffau yr arwr lleol. Teithiodd Y Madogwys wedyn i ganolfannau cymuned ledled Cymru o Fawrth 2il i'r 20fed

Mae drama Gareth Miles - brodor o Waunfawr ei hunan - yn dilyn siwrnai anhygoel John Evans yn 1792 o'i gartref yng nghefn gwlad Cymru i bellteroedd yr Unol Daleithiau i geisio darganfod disgynyddion Madog. Yn ystod y cynhyrchiad cawn gwrdd â Iolo Morgannwg a'i griw yn Llundain, Thomas Jefferson a oedd yn cydnabod pwysigrwydd John i'r Unol Daleithiau, ynghyd a'r Indiaid Brodorol a fforwyr.

'Roedd y cast yn cynnwys actorion/cerddorion o Gymru ac Indiaid brodorol a fu'n cydweithio i greu gwead unigriw o gerddoriaeth, dawns a defod wrth gyflwyno'r stori anhygoel hon sy'n rhagori ar Pocahontas Disney!

Gyda chast o ddeg perfformiwr aml-dalentog o dras Cymreig ac Indiaid Brodorol, rhy Dalier Sylw arwyddocâd cyfoes i hanes ein pobloedd.Trwy gymysgu traddodiadau y ddau ddiwylliant ceir cyfle arbennig i chwilio am y cyswllt rhwng y ddau. Cyfle hefyd i gryfhau y berthynas rhwng Cymru ac America drwy'r chwedl Madog ac i gadw'r chwedlau'n fyw...


Teyrnged i Elfed Lewys

adolygiadau / reviews:

{adolygiadau}

dyddiadau / date:

Mawrth 1999