"Mynnwch docyn"
Mari Jones- Williams, Western Mail
"Meic Povey yw un o'n dramodwyr mwya enwog, ac roedd disgwyl
eiddgar am ei ddrama newydd Tair, gyda chynullfeidfaeodd mawr
yn heidio pob nos. Mae perthynas Meic Povey gyda chwmni Dalier
Sylw yn parhau ac mae'n amlwg fod arddull y dramodydd yn gweddu'n
berffaith i'r cwmni
Cryfder Povey yw ei ddeialog di-drimings, ac fe gafodd hynny
ei adlewyrchu yn y set moel. Cyfeirwyd ein sylw'n llwyr at y
cymeriadau: Y Nain, Y Fam, a'r Ferch, ac roedd hynny'n gofyn
am ganolbwntiad llwyr gan y gynulleidfa. Roedd bywydau'r tair
dan chwyddwydr di-drugaredd, ac heblaw am ffraethineb comig
yma a thraw, doedd braidd dim saib i'r gwylwyr na'r actoresau
Wrth lunio'r cymeriadau bu Povey'n sylwgar iawn ar batrymau
llafar y cenhedlaethau gwahanol, er iddo ddefnyddio ambell i
ystrydeb. Portreadau manwl a gafwyd gan Lisabeth Miles, Betsan
Llwyd a Catrin Powell, gyda phob un yn diffinio'r genhedlaeth
berthnasol trwy symudiadau corfforol cynnil. Rhaid talu sylw
arbenning i berfformiad Catrin Powell, a ragorai wrth symud
o'r llon i'r lledf. Er nad oedd ei symudiadau corfforol mor
llyfn â rhai ei chyd actoresau, llwyddodd i gyfleu egni
heintus a byrbwyll Y Ferch"
Iwan England
"The official Eisteddfod production
is Tair (Three) by Meic Povey, one of the most experienced Welsh
playwrights. Povey certainly ... would be performed by a National
Theatre of Wales - but no better, I suspect, than by the smaller
Dalier Sylw, who seem to realise Tair very well."
David Adams, The Guardian