archif sioeau DALIER SYLW  production archive
wyneb ynn wyneb

sioe :

Wyneb yn Wyneb

awdur / author:

Meic Povey

cyfarwyddwr / director: Bethan Jones

cynllun / design:

Ceri James

cast:

Olwen Rees / Dafydd Dafis / Danny Grehan

synopsis:

Carwriaeth 'anghonfensiynol' yw'r un rhwng Tom a Steff, ond nid yw'n llai angerddol na'r cariad sy'n bodoli rhwng Laura a Tom, sef cariad mam a mab, yr un mwyaf grymus ohonynt i gyd o bosibl.

Triongl o densiynau teuluol a welwn, wrth iddynt geisio dygymod â phroblemau sy'n hollol berthnasol i unigolion ein hoes ni. Calon y ddrama yw sialens Laura i ddygymod â chariad y ddau fachgen, fel aelod o gymdeithas bentrefol glos. Daeth Steff i'r canol fel bygythiad, ac fe welwn Meic Povey'n ymdrin yn sensitif â themau sydd wedi ei ddiddori erioed - euogrwydd a rhagrith.

Drama rymus, sy'n ymestyn y cyffro hyd y diwedd trwy gynildeb ac ysgrifennu sensitif rhwng dim ond tri chymeriad'


mae'r ddrama yma ar gael yn ein casgliad o gyhoeddiadau.

adolygiadau / reviews:

"Go brin y llwyfennir drama gyfoes bwysicach na hon yn y Gymraeg eleni.

Camodd y cynhyrchiad trwy'r hiwmor a'r gwrthdaro gyda gosgeiddrwydd hunan-hyderus . Trwy ddewis y tawel yn hytrach na'r ymfflamychol, datgelwyd haenau'r ddrama y naill ar ôl y llall. Proses ofalus, gywrain sy'n arwain at gignoethni"
Aled Islwyn
Y Cymro


"Mae yna gymaint sydd yn gofiadwy yn y cyflwyniad hwn o ddrama ddiweddara' Meic Povey, yn glywadwy ac yn weladwy, fel ei bod hi'n amhosib osgoi'r casgliad bod yna briodas ddisglair yma rhwng dramodydd a chwmni, ac bydd hyn yn achlysur y bydd llawer yn ei gofio am amser maith yn y theatr Gymraeg"
Emyr Edwards, Golwg

dyddiadau / date:

Mawrth - Ebrill 1993