jonothan joss yn 'y madogwys' Y Madogwys logo
The music you are currently hearing (if you have a sound card!) is an extract from the score to Y Madogwys, composed by Iolo Jones

Dewch ar y daith!

Yn fis Chwefror 1999, mi fydd Dalier Sylw yn cyflwyno Y Madogwys yn Neuadd Waunfawr i lansio Gwyl John Evans - dathliad chwe mis o ddigwyddiadau diwyllianol a chymdeithasol wedi eu trefnu gan Antur Waunfawr i goffau yr arwr lleol. Mi fydd Y Madogwys wedyn yn teithio i ganolfannau cymuned ledled Cymru o Fawrth 2il i'r 20fed

Mae drama Gareth Miles - broder o Waunfawr ei hunan - yn dilyn siwrnai anhygoel John Evans yn 1792 o'i gartref yng nghefn gwlad Cymru i bellteroedd yr Unol Daleithioau i geisio darganfod disgynyddion Madog. Yn ystod y cynyrchiad cawn gwrdd â Iolo Morgannwg a'i griw yn Llundain, Thomas Jefferson a oedd yn cydnabod pwysigrwydd John i'r Unol Daleithiau, ynghyd a'r Indiaid Brodorol a fforwyr.

Bydd y cast yn cynnwys actorion/cerddorion o Gymru ac Indiaid brodorol a fydd yn cydweithio i greu gwead unigriw o gerddoriaeth, dawns a defod wrth gyflwyno'r stori anhygoel hon sy'n rhagori ar Pocahontas Disney!

Gyda chast o ddeg perfformiwr aml-dalentog o dras Gymreig ac Indiaid Brodorol, mae Dalier Sylw yn rhoi arwuddocâd cyfoes i hanes ein pobledd.Trwy gymysgu traddodiadau y ddau diwylliant ceir cyfle arbennig i chwilio am y cyswllt rhwng y ddau. Mae hefyd yn gyfle i gryfhau y berthynas rhwng Cymru ac America drwy'r chwedl Madog ac i gadw'r chwedlau'n fyw...


tudalen cartrefein cwmnicynyrchiadau cyfredolhanes y cmnicysylltwch a nienglish version?

 

This website will be closing on 1st October 2026 and the content deleted, if you want to archive it archive.org may be able to help.
Please do not call Plusnet as we hold no information about the ownership of this website to help.